Alun Wyn Jones yn ymuno â Toulon yn Ffrainc
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gapten rygbi Cymru, Alun Wyn Jones wedi arwyddo gyda chlwb Toulon yn Ffrainc.
Bydd Jones, 37, yn chwaraewr wrth gefn i'r clwb drwy gydol Cwpan Rygbi'r Byd, sy'n dechrau ym mis Medi.
Fe fydd yn ymuno fel joker médical - term sy'n gyffredin yn Ffrainc am chwaraewr sydd ar gytundeb tymor byr i lenwi bwlch oherwydd anafiadau.
Mae Jones wedi arwyddo cytundeb er mwyn llenwi bylchau yn y garfan oherwydd Cwpan y Byd.
Mae cynghrair rygbi Ffrainc yn dechrau ganol Awst, ac yna'n parhau ar ôl y twrnament ar ddechrau Hydref.
Fe wnaeth Jones gyhoeddi ei ymddeoliad o'r gamp ryngwladol ym mis Mai - a hynny fel y chwaraewr sydd â'r nifer uchaf o gapiau yn y byd.
Ym Mehefin, dywedodd Jones na fyddai'n dychwelyd i chwarae gyda rhanbarth y Gweilch - y clwb y mae wedi ei gynrychioli ers 2005.
Dadansoddiad Dafydd Pritchard, gohebydd chwaraeon BBC Cymru
Roedd dyfodol Alun Wyn Jones yn ansicr ar ôl iddo adael y Gweilch yn dilyn y cyhoeddiad ei fod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol.
Mae'r newyddion ei fod yn ymuno â Toulon yn rhoi ateb inni am ei ddyfodol tymor byr, ond pam y term joker meddygol?
Mae'n air sy'n fwy poblogaidd yn Ffrainc ac, yn syml, mae'n golygu chwaraewr y gall clwb ei arwyddo yn sydyn, fel arfer ar gytundeb byr, mewn amgylchiadau eithriadol megis Cwpan y Byd.
Bydd clybiau mawr fel Toulon heb lawer o chwaraewyr yn ystod Cwpan y Byd, felly mae arwyddo chwaraewyr fel Jones yn helpu nhw i ddewis tîm llawn ar gyfer eu gemau yn ystod y cyfnodau hyn.
Mae hwn hefyd yn benderfyniad diddorol o safbwynt Jones.
Mae'r clo wedi ei gysylltu â chlybiau tramor ers blynyddoedd ac, ar ôl aros yn ffyddlon i'r Gweilch am oesoedd, mae hwn yn gyfle iddo brofi diwylliant ac amgylchedd rygbi newydd cyn iddo orffen ei yrfa ddisglair o'r diwedd.
Wedi dweud hynny, dydyn ni dal ddim yn gwybod yn sicr mai hon fydd ei bennod olaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd19 Mai 2023