Galw am droi trac trên ym Môn yn lwybr amlbwrpas

  • Cyhoeddwyd
ceffylau

Mae'n bryd troi hen drac rheilffordd ar Ynys Môn yn lwybr amlbwrpas cymunedol, yn ôl ymgyrchwyr.

Heidiodd degau o bobl i Amlwch ddydd Sadwrn i ddangos cefnogaeth i'r syniad o lôn las i gerddwyr, seiclwyr a cheffylau ar yr hen lein rhwng y dref honno a'r Gaerwen.

Ers blynyddoedd, mae grŵp gwahanol wedi bod yn tacluso rhannau o'r rheilffordd - sy'n cael ei adnabod fel Lein Amlwch neu Reilffordd Canolog Môn - gyda'r bwriad o weld trenau'n ei defnyddio eto.

Yn 2021, fe gawson nhw lês 99 mlynedd ar y trac - sydd ar y cyfan dal yn ei le - gan y perchnogion, Network Rail.

Ond mae'r rheiny sy'n cefnogi lôn amlddefnydd yn credu bod eu cynllun nhw yn fwy fforddiadwy a llesol.

'Llwybr i bawb'

"Mae'r lein 'ma'n mynd heibio 12 ysgol, mae'n mynd drwy dair neu bedair stad ddiwydiannol, ac fedran ni gael pobl yn reidio i'r ysgol, yn reidio i'r gwaith," meddai Gethyn Môn Hughes, un o arweinwyr ymgyrch Lôn Las Môn.

Disgrifiad o’r llun,

Cerddwyr yn Amlwch ddydd Sadwrn yn galw am lwybr amlbwrpas

"Dwi'n cael hogia' sy'n gweithio yn iard Huws Gray yn dweud wrtha' i, 'os ydy hwn yn llwyddiannus, mi wna' i reidio i'r gwaith o Ros-y-bol i Langefni'.

"Dyna be' mae o amdan - mae 'na broblem iechyd yn Sir Fôn ac mae hwn yn lwybr i bawb."

Tra bod gwirfoddolwyr Lein Amlwch wedi clirio llawer o'r cledrau yn ardal Llangefni, mae llawer o lysdyfiant dros y cledrau yn ardal Amlwch.

O lle daw'r arian?

Mae Julie Edwards, sy'n cefnogi Lôn Las Môn, yn cwestiynu pa mor realistig ydy adfer yr hen lein.

"Lle mae'r pres yn mynd i ddod o i'r lein, i'r trên? Dwi ddim yn deall hynna," meddai.

"Mae o wedi bod ar y cards am 30 mlynedd - ydan ni am ddisgwyl 30 arall?"

Daeth astudiaeth yn 2022 i'r casgliad y byddai ailgychwyn gwasanaethau i deithwyr rhwng Y Gaerwen ac Amlwch - gan gysylltu â'r brif reilffordd sy'n cysylltu Môn a'r tir mawr - yn costio dros £144m.

Ond yn nwylo Network Rail - sy'n rhedeg rheilffyrdd y DU - mae'r tir, ac fe roddon nhw'r lês i griw Lein Amlwch yn eithaf diweddar.

Felly mae'n amlwg mai fel rheilffordd mae dyfodol y lein yma, yn ôl Walter Glyn Davies, cadeirydd grŵp Lein Amlwch, sy'n anelu i weld dau fath o drên yn rhedeg arni.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Walter Glyn Davies o blaid cael y trenau yn ôl

"Mae'n rhaid iddyn nhw fod yn drenau cymunedol, oherwydd y pwysau ar Bont y Borth," meddai.

"Mi fuasa' hwn, wrth gwrs, yn lliniaru'r broblem yn fanno.

"Ac mae 'na bwysau mawr yn dweud, 'Walter Glyn, mae'n rhaid i ti hefyd gael trên stêm'.

"Wrth gwrs, dyna beth mae pawb eisiau'i weld, ac mi fuasa' honno'n drên fuasa'n denu twristiaid."

Gwrthododd Mr Davies y syniad y byddai'n costio £144m.

"Y cwbwl ydy hwnna ydy ffigwr i ddisgrifio tasa' hon yn brif lein… Dydy o ddim byd tebyg i hynna."

'Angen cydweithio'

Mae'r ddwy ymgyrch wedi cynnal trafodaethau yn ddiweddar i geisio dod o hyd i ffordd ymlaen.

Yn ôl arweinydd Cyngor Ynys Môn, sy'n dweud ei bod yn cydnabod cryfderau'r ddau brosiect, mae angen bwrw ati mewn ffordd sy'n parchu pob syniad.

"Dydy hon ddim yn drafodaeth hawdd, dydy hi ddim yn drafodaeth y byddwn ni'n gallu ei datrys yn sydyn, ond beth sy'n bwysig ydy ein bod ni'n dangos parch i'r ddwy ochr," meddai'r Cynghorydd Llinos Medi.

"Mae gwirfoddolwyr yn ofnadwy o bwysig ac yma ym Môn mae'n bwysig ein bod ni'n cydweithio efo'n gilydd er mwyn dod ag ased fel hyn yn ôl i ddefnydd."

Pynciau cysylltiedig