Nefyn: Pryder symud llwybr 'pwysig' dros berygl tirlithriad

  • Cyhoeddwyd
llwybr Nefyn
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Cyngor Gwynedd bod rhan o'r llwybr yn ansefydlog iawn

Mae 'na bryder y gallai rhan o Lwybr Arfordir Cymru yn Nefyn gael ei symud oherwydd y bygythiad o dirlithriadau.

Mae Cyngor Tref Nefyn yn poeni y gallai symud y llwybr oherwydd tir ansefydlog rwystro pobl rhag gweld y golygfeydd - mae'r llwybr yn ymestyn uwchlaw'r traeth ac yn edrych dros Borthdinllaen.

Yn ôl un arbenigwr mi fydd rhagor o fygythiadau i lwybrau tebyg ar draws Cymru wrth i newid hinsawdd waethygu yn y dyfodol.

Wrth ymateb fe ddywedodd Cyngor Gwynedd fod adroddiad diweddar wedi dangos fod rhan o'r llwybr yn "ansefydlog iawn" a'u bod yn edrych ar opsiynau i ddatrys y sefyllfa.

Disgrifiad,

Dyma'r foment y digwyddodd tirlithriad ar draeth Nefyn

Mae Cyngor Gwynedd yn gwarchod bron i 200 milltir o lwybr yr arfordir ar draws y sir.

Ers rhai blynyddoedd mae pryderon wedi bod am sefydlogrwydd y tir ac roedd tirlithriad sylweddol ar y traeth yn 2021.

Ond pryder Cyngor Tref Nefyn yw y gallai rhan o'r llwybr sy'n ymestyn o Lôn y Traeth tuag at Benrhyn Nefyn gael ei symud ymhellach tua'r dref oherwydd pryderon am ddiogelwch.

"Y bygythiad ydi fod pobl leol ac ymwelwyr yn mynd i golli un o'r adnoddau pwysicaf sydd ganddo ni," meddai'r Cynghorydd Gruffydd Williams.

"Pan ti'n cerdded rownd llwybr y castell ac yn edrych allan dros y bae, mae'n un o'r tirluniau mwyaf gogoneddus sydd gennym ni yng Nghymru.

"Mae'n hollbwysig bod ni'n cadw'r adnodd yma."

Ffynhonnell y llun, Christian Pilling
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nefyn wedi profi sawl tirlithriad sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf

'Pwysig ar gyfer busnesau'

Gyda'r llwybr ledled Cymru yn denu ymwelwyr yn ogystal â thrigolion lleol, mae'r cyngor tref yn poeni hefyd am yr effaith posib ar yr economi leol pe bai'r llwybr yn cael ei symud yn ôl gan guddio'r golygfeydd.  

Yn ôl Mared Llywelyn, cadeirydd y cyngor tref, mae swyddogion wedi bod yn dosbarthu holiaduron i fusnesau lleol i'w holi am eu barn.

"Mae'r holiaduron yn dangos pwysigrwydd y llwybr ar gyfer eu busnesau," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llwybr yn denu pobl i Nefyn, medd Mared Llywelyn sy'n gadeirydd ar y cyngor tref

"Mae'n un o'r elfennau sy'n denu pobl yma ac yn ogystal â hynny mae'n wych ar gyfer lles pobl sy'n byw yma."

Mae un arbenigwr wedi dweud wrth Newyddion S4C y gellid disgwyl rhagor o dirlithriadau a bygythiadau i lwybr yr arfordir ledled Cymru wrth i sgil effeithiau newid hinsawdd ddod i'r amlwg.

"Da ni'n mynd i weld mwy o fygythiadau a mwy o dirlithriadau i'r llwybr," medd Dr Paula Roberts sy'n darlithio mewn Rheolaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor.

Disgrifiad o’r llun,

Gellir disgwyl rhagor o dirlithriadau, medd Dr Paula Roberts o Brifysgol Bangor

"Pan mae 'na fwy o ddŵr yn y system, mwy o egni - mae'r gronynnau yn dueddol o fethu a nodwedd ddaearegol tu hwnt i ddylanwad dyn ydi hwnnw.

"Yn y bôn, newid hinsawdd sy'n rhannol gyfrifol - mae tirlithriadau wedi digwydd yn hanesyddol yna."

Ychwanegodd Dr Roberts fod y bygythiadau yn her enfawr i awdurdodau lleol gan fod diogelu'r arfordir yma yn gostus ac o bosib ddim ond yn ateb tymor byr neu ganolig.

Gobaith Cyngor Tref Nefyn ydi gwneud cais am bres drwy gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU i ddiogelu'r tir a chadw'r llwybr lle mae o ar hyn o bryd.

'Dim bwriad cau'

Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd mai'r flaenoriaeth yw "cadw cerddwyr a chymunedau lleol yn ddiogel".

"Rydym yn gwerthfawrogi fod llwybr Penrallt Nefyn yn adnodd pwysig a phoblogaidd ac rydym yn pwysleisio ei fod yn parhau i fod ar agor ac nad oes bwriad i'w gau.

"Mae nifer o dirlithriadau wedi bod yn ardal Nefyn a Morfa Nefyn yn ddiweddar.

"Yn anffodus realiti'r sefyllfa ydi ein bod ni'n debygol o weld mwy o ddigwyddiadau o'r fath wrth i lefel y môr godi ac wrth inni brofi mwy o dywydd eithafol oherwydd newid hinsawdd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Gwynedd yn pwysleisio bod y llwybr yn parhau ar agor ac nad oes bwriad i'w gau

Ychwanegodd llefarydd fod "adroddiadau peirianyddol diweddar wedi datgelu fod y rhan o lwybr Penrallt yn ansefydlog iawn"."Rydym wedi bod yn edrych ar yr opsiynau posib i ddatrys hyn - opsiynau a fyddai'n parhau i ganiatáu mynediad i lwybr yr arfordir yn y tymor hir."Rydym wedi bod yn trafod gyda Chyngor Tref Nefyn ac yn parhau i fonitro'r sefyllfa."