Carcharu dyn am ymosodiad rhyw 'arswydus' ym Mharc Biwt

  • Cyhoeddwyd
Dale EdeyFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr heddlu roedd ymosodiad Edey yn un "arswydus ar ddynes ar ei phen ei hun yng ngolau dydd"

Mae dyn 38 oed o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am ymosodiad rhyw ar ddynes ym Mharc Biwt yn y brifddinas ym mis Awst 2022.

Roedd dynes 32 oed yn cerdded drwy'r parc tua 06:40 ar ddydd Sul, 31 Awst 2022 pan wnaeth Dale Edey afael ynddi ac ymosod yn rhywiol arni ger Pont y Gored Ddu ar Lwybr Taf.

Fe blediodd Edey o Bentwyn yn euog i ymosod yn rhywiol ac ymosod gan achosi niwed corfforol.

Yn Llys y Goron Casnewydd, cafodd ddedfryd o bedair blynedd ac 11 mis o garchar, gyda thair blynedd estynedig ar drwydded.

Ffynhonnell y llun, Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y ddynes yn cerdded ger Pont y Gored Ddu pan ymosododd Dale Edey arni

Cafodd Edey ei arestio dair wythnos wedi'r ymosodiad ar ôl cael ei adnabod drwy dystiolaeth DNA ar ddillad y ddynes.

Yn wreiddiol fe wnaeth o wadu'r troseddau, ond fe bleidiodd yn euog ar ddiwrnod cynta'r achos yn ei erbyn ym mis Mehefin.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Simon Hicks o Heddlu De Cymru: "Roedd hwn yn ymosodiad arswydus ar ddynes ar ei phen ei hun yng ngolau dydd.

"Hoffwn gydnabod dewder a chryfder y dioddefwr yn adrodd ar yr hyn ddigwyddodd, ac yn siarad mor ddewr am yr effaith ddifrifol y mae gweithredoedd Edey wedi eu cael arni.

"Rydym yn gobeithio y bydd y dedfrydu yn rhoi rhywfaint o deimlad o ddiweddglo iddi, ac y bydd yn ei galluogi i adfer ei hyder a symud ymlaen gyda'i bywyd."

Pynciau cysylltiedig