Ymgyrch i godi cerflun i gofio arweinydd Merched Beca
- Cyhoeddwyd
Bydd ymgyrch yn cael ei lansio'n swyddogol nos Lun yn Sir Gaerfyrddin er mwyn codi arian i greu cerflun i Thomas Rees - neu Twm Carnabwth - arweinydd Merched Beca yn y 19eg Ganrif.
Bwriad Cymdeithas Cwm Cerwyn yw gosod cerflun efydd y tu allan i Gaffi Beca yn Efailwen - sydd ar y ffin gyda Sir Benfro - lle bu ymosodiadau ar y tollborth yno.
Gan nad oes lluniau o Thomas Rees, fydd hynny ddim yn dasg hawdd yn ôl y gymdeithas.
Mae'r ymgyrch yn gobeithio codi £10,000 i gychwyn ar y gwaith erbyn y Nadolig, cyn y bydd rhaid cael rhwng £50,000 a £60,000 pellach i wneud y cerflun ei hun i gofio un o'u harwyr lleol.
Fe arweiniodd gweithredoedd Thomas Rees - oedd yn fwyaf adnabyddus yn y fro fel Twm Carnabwth - at ddatblygiadau radical yn ail hanner y 19eg Ganrif, a'u patrwm gweithredu dros gyfiawnder cymdeithasol yn lledu ar draws y de orllewin.
Ail-greu ymosodiad
I gychwyn yr ymgyrch godi arian ar gyfer y cerflun, bydd trigolion lleol yn ail-greu un o'r ymosodiadau ar dollborth Efailwen, nos Lun 17 Gorffennaf.
Dyna union ddyddiad y trydydd a'r ymosodiad olaf yn 1839, cyn i'r awdurdodau ildio a chydnabod cwynion y ffermwyr oedd yn dymuno difrodi beth roedden nhw'n ei weld fel symbolau o orthrwm.
Yn ôl ysgrifennydd yr ymgyrch, Hefin Wyn, nid tasg hawdd fydd creu'r cerflun heb luniau o Twm Carnabwth.
"Bydd angen cryn dipyn o ddychymyg i bortreadu Twm fel cymeriad tanllyd a oedd yn benderfynol o ddileu anghyfiawnder," meddai.
"Byddwn yn gwahodd cerflunwyr i gynnig syniadau. Fe fyddwn ni'n cynnig braslun o syniadau a chyfarwyddiadau o ran cefndir, ond ry'n ni am i'r cerflunwyr ddefnyddio eu dychymyg a dyfeisgarwch.
"Ry'n ni'n disgwyl y bydd o faint dyn fel petai, ond pwy a ŵyr wedyn, gawn nhw ddefnyddio eu dychymyg i gyfleu sut oedd hi yn yr ardal ar y pryd.
"A fydd 'na gi neu filgi wrth sodle Twm, neu gadno neu ddarn drylliedig o'r iet? Pwy a ŵyr.
"Gawn nhw gyfleu'r gŵr yma oedd yn byw mewn tipyn o dlodi ond oedd yn gawr o ddyn - nid o reidrwydd yn llythrennol. Fe fydd yn gerflun y cerfluniau yn y pendraw dwi'n siŵr."
'Cynnau'r fflam'
Fe fydd gwaith adeiladu yn digwydd yng Nghaffi Beca dros y misoedd a blynyddoedd nesaf yn ôl Mr Wyn, a does dim disgwyl dadorchuddio'r gofeb am o leia' ddwy flynedd.
"Mae digon o le tu allan i osod y cerflun, ond gyda chynlluniau perchennog y caffi i'w ail-godi a'i symud ychydig lathenni, ry'n ni am ddadorchuddio'r cerflun pan fydd y caffi ar ei newydd wedd," meddai.
"Mae hyn yn rhoi amser i godi'r arian, creu'r gwaith ac ati.
Mae gwefan Go Fund Me wedi ei sefydlu a thudalen Facebook Codi Cerflun Twm Carnabwth yn cael ei gyhoeddi nos Lun, lle byddwn yn gallu bwydo gwybodaeth am gefndir Twm hefyd.
"Dwi'n rhagweld y bydd pobl ledled Cymru am gyfrannu at y cerflun, ac yn benodol ar draws y gorllewin, am mai Terfysg Beca wnaeth ledu i Sir Gâr a rhannau o Sir Forgannwg wedyn, a Twm wnaeth gynnau'r fflam fel petai."
Yr actor Rhodri Evan fydd yn chwarae rhan Twm Carnabwth, gyda thrigolion lleol yn ymuno ag o fel y "terfysgwyr".
Yn rhan o'r digwyddiad hefyd fe fydd dau denor adnabyddus, Trystan Llŷr a Teifryn Rees, yn canu hoff emyn Twm, 'Iesu difyrrwch f'enaid drud'.
A bydd côr enfawr o ddisgyblion tair o'r ysgolion cymunedol lleol yn cyflwyno un o ganeuon Tecwyn Ifan am Wrthryfel Merched Beca.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2022
- Cyhoeddwyd13 Mai 2014
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2022