Carcharu dau ddyn am dreisio a cham-drin merch
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn cynnwys manylion all beri gofid.
Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu am dreisio a cham-drin merch yn rhywiol yn y gogledd.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod y ferch, sydd dal yn ei harddegau, wedi dioddef niwed "annisgrifiadwy" dros gyfnod o chwe blynedd.
Cafodd Michael Stewart, 41, ei ddedfrydu i oes yn y carchar wedi iddo bledio'n euog i sawl cyhuddiad, gan gynnwys cael rhyw â merch dan 13 oed, a rhannu delweddau anweddus.
Fe gafwyd Matthew Penny, 44, yn euog gan reithgor o dreisio.
Yn ôl yr erlyniad, cafodd y ferch ei cham-drin o pan oedd hi'n 10 oed nes iddi droi'n 16.
Clywodd y llys bod Stewart wedi ei threisio, wedi anfon lluniau o'i droseddau at unigolion eraill, ac wedi mynd â'r ferch i gwrdd â dynion eraill.
Fe aeth Stewart â'r ferch i gyfarfod â Penny ar ddau achlysur, yng Nghonwy ac ym Mhrestatyn.
Honnir bod y ddau ddyn wedi ei threisio yn y digwyddiad ym Mhrestatyn.
Clywodd y llys bod Heddlu'r Gogledd wedi dod i wybod am ddau gyfrif ar ap negesu 'Kik', yr oedd Penny wedi eu defnyddio i rannu lluniau a fideos o blant yn cael eu cam-drin yn rhywiol.
Roedd modd cysylltu'r cyfrifon hynny â Stewart, a chafodd ei gartref ei archwilio gan swyddogion ym mis Tachwedd y llynedd.
'Dal i ddioddef hunllefau'
Mewn datganiad dioddefwr, dywedodd y ferch ei bod hi'n dal i ddioddef hunllefau, a bod y cyfan wedi effeithio yn fawr ar ei gwaith ysgol.
Dywedodd y barnwr fod y ferch wedi cael ei dibrisio a'i chywilyddio, a bod effeithiau'r gamdriniaeth am newid ei bywyd.
Cafodd Stewart ei ddedfrydu i oes yn y carchar, a bydd rhaid iddo dreulio isafswm o 16 mlynedd dan glo cyn bod modd iddo wneud cais am barôl.
Cafodd Penny ei garcharu am 20 mlynedd, a bydd rhaid iddo dreulio isafswm o 13 mlynedd dan glo.