Disgyblion yn sgwennu i Syr David Attenborough am barc natur

  • Cyhoeddwyd
Josh, Riad, Ibtissam, Luke, Coby
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth rhai o ddisgyblion Ysgol Kingsland gysylltu gyda Syr David Attenborough i leisio eu pryderon

Mae disgyblion ysgol gynradd yng Nghaergybi wedi ysgrifennu at Syr David Attenborough yn sgil ansicrwydd ynglŷn â dyfodol parc Penrhos.

Mae ffrae gynllunio wedi bod yn corddi ers blynyddoedd, gyda chwmni Land and Lakes yn gobeithio codi cannoedd o gabanau gwyliau ar y safle.

Yn enwog am ei fywyd gwyllt ac fel lle i fynd am dro, mae'r parc yn agos iawn at galonnau disgyblion Ysgol Kingsland.

Ar ôl anfon llythyr at y naturiaethwr, daeth ateb yn ei lawysgrifen ei hun, yn eu cynghori i gysylltu ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru er mwyn trafod eu pryderon.

'Lle fydd y byd natur i blant?'

Dywedodd Rhys Hearn, athro yn Ysgol Kingsland, bod y plant "wrth eu boddau" ar ôl derbyn y neges gan Syr David.

Ond yn ôl Mr Hearn mae yna bryder gwirioneddol ganddyn nhw am ddyfodol safle Penrhos, ac maen nhw eisiau gweld Cwmni Land and Lakes yn ystyried codi'r cabanau ar safle arall gerllaw.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y disgyblion lythyr yn ôl gan Syr David Attenborough yn cynnig cyngor iddyn nhw

"Y pryder ydi, lle fydd y plant yn chwarae? Lle fyddan nhw'n gallu treulio amser ym myd natur - sy'n bwysig iawn ar gyfer iechyd meddwl ac yn y blaen?" meddai.

Mae'r disgyblion yn amlwg yn poeni am golli'r safle hefyd, gyda sawl un yn nodi eu bod yn hoff o fynd i chwarae yno.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Land and Lakes nad oes unrhyw gynlluniau o gwbl i rwystro mynediad i safle Penrhos i'r cyhoedd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y prifathro Rhys Hearn fod y disgyblion yn poeni lle fyddai ganddyn nhw i fwynhau byd natur

"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y bydd 'na hawl mynediad i 73 acer o goed a llwybrau, a'u bod yn agor 100 acer arall o dir ger cae glas i'r cyhoedd allu ei fwynhau," meddai.

Ychwanegodd y llefarydd fod ganddyn nhw ganiatâd cynllunio parhaol ar y safle nawr, a bod y datblygiad wedi ei oedi tan fod y sefyllfa economaidd yn gwella.

Mae'r cwmni yn mynnu y bydd unrhyw ddatblygiad yn cael ei wneud mewn modd sensitif.

'Angen camau pellach'

Ond mae Cyngor Môn wedi pwysleisio mai "caniatâd cynllunio hybrid" gafodd ei roi ar gyfer y datblygiad Land & Lakes yn ôl yn 2016.

"Mae hyn yn golygu bod rhan helaeth o'r caniatâd gyda chaniatâd amlinellol, a bydd rhaid i'r datblygwr gyflwyno ceisiadau materion a gadwyd yn ôl cyn y gallant gychwyn ar y datblygiad llety gwyliau," meddai llefarydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Môn yn dweud bod camau pellach sydd angen i Land & Lakes eu cymryd cyn gallu bwrw ymlaen gyda'r datblygiad

"Bydd cais o'r fath yn cynnwys materion fel y nifer a dyluniad y cabanau gwyliau, materion parcio a phriffyrdd, materion ecolegol, amgylcheddol ayyb, a bydd rhaid i'r datblygwr ymgymryd â'r holl arolygon perthnasol fel rhan o'r cais materion a gadwyd yn ôl.

"Bydd y cyngor yn ymgynghori ar unrhyw gais o'r fath a bydd y cyhoedd yn cael cyfle i roi ei barn.

"Nid oes modd felly i'r datblygwr Land & Lakes ddechrau ar y gwaith nes byddant wedi sicrhau caniatad cynllunio ar gyfer y materion a gadwyd yn ôl."

Pynciau cysylltiedig