Galw am atal cynllun parc gwyliau Penrhos a gwarchod natur

  • Cyhoeddwyd
CynllunFfynhonnell y llun, Land & Lakes
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun ar gyfer y parc gwyliau yn cynnwys bythynnod ac mae'r cwmni'n dweud y byddai'n creu 500 o swyddi

Mae ymgyrchwyr ym Môn yn galw ar gwmni sydd am ddatblygu parc gwyliau ger Caergybi i wyrdroi eu penderfyniad.

Mae cwmni Land and Lakes wedi cyflwyno cais cynllunio ers 2012 i godi 500 o fythynnod gwyliau ar ran o safle Penrhos, gan ddweud y byddai'n denu bron i 500 o swyddi i'r ardal.

Ond gyda'r safle yn hafan i fyd natur, ac newydd ennill gwobr am hynny, mae galw o'r newydd i warchod y safle rhag datblygiad.

Yn ôl cwmni Land and Lakes sy'n berchen ar y tir, byddai unrhyw bentref gwyliau yn parchu'r byd natur gan fynnu nad oes cynllun i dorri 28 acer o goed, fel sydd wedi ei honni.

Yn 2016 fe gafodd gynlluniau'r cwmni ganiatâd amlinellol gan Gyngor Môn sy'n cynnwys bwriad i godi 500 o unedau gwyliau a phwll nofio trofannol.

Fel rhan o'r cais cynllunio gwreiddiol, mae'r cwmni wedi honni y byddai hyd at £30m yn cael ei fuddsoddi i'r economi leol.

Ond mae ymgyrchwyr yn mynnu na ddylai unrhyw waith fwrw 'mlaen ym Mhenrhos gan ei fod yn lle poblogaidd i bobl ymweld, ac yn gartref i nifer o rywiogaethau gan gynnwys y Wiwer Goch.

Mae'r safle yn ymestyn ar draws 200 o aceri, ac yn ôl y cwmni, byddai 73 o aceri yn parhau i fod ar gael i'r cyhoedd fwynhau.

Disgrifiad o’r llun,

Does gan Jenny Jones ddim ardd felly mae'n dweud fod y parc yn lle gwych i'r plant ddod i chwarae

Ond i deulu fel un Jenny Jones sy'n byw gerllaw, mae achub y parc rhag y pentre gwyliau yn flaenoriaeth.

"Dwi'n meddwl ei fod o'n warthus," medd y fam i ddau.

"'Dan ni fel teulu yn mwynhau dod i Benrhos a fel 'dach chi'n gweld mae 'na lot o deuluoedd yn mwynhau.

"'Di o'm yn lle i barc gwyliau, mae'n lle i deuluoedd cael dod yma i fwynhau ac yn lle i natur."

Yn ôl Ms Jones, gad nad oes gan y teulu ardd i'r plant chwarae, dyma'r unig le mae'r plant yn "teimlo'n rhydd".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Glyn Jones yn byw yn lleol ac mae'n dweud fod y parc yn le arbennig iddo a'i ddiweddar wraig

Yn ôl sefydliad y Woodland Trust, mae'r parc yn denu rhyw 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn gyda chyfoeth o goed, anifeiliaid a blodau yn tyfu yno.

Mae gan nifer gysylltiad personol gyda'r safle, gan gynnwys Glyn Jones sy'n mynd yno'n aml.

"Fyddwn i'n arfer dod yma'n rheolaidd gyda fy niweddar wraig a fydda i'n dal i ddod yma yn rheolaidd ac eistedd yma i gael heddwch meddwl".

"Mae'n le mor braf, os 'dach chi ar ben eich hun neu mewn giang, ma'n le mor hyfryd ac i'r cwbl gael ei chwalu o bosib!"

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Parc yn un gwledig ac yn hafan i fyd natur yn ôl ymgyrchwyr

Yn ôl sefydliad Fields in Trust, fe ddaeth Penrhos i'r brig yng nghystadleuaeth Hoff Barc y Deyrnas Unedig "gan ei fod yn lle arbennig i nifer".

Yn ôl cynlluniau Land and Lakes fe fyddai'r parc gwyliau yn gweddu gyda natur yr ardal ac yn dangos sensitifrwydd i'r amgylchedd.

Gobaith y cwmni ydy creu hyd at 500 o swyddi er mwyn buddsoddi yn yr economi leol.

Ond yn ôl y Cynghorydd Tref dros Gaergybi, Vaughan Williams, ni ddylai swyddi gael eu blaenoriaethu ar draul ardal o'r fath.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Vaughan Williams o Gyngor Caergybi fod pawb o blaid swyddi ond nid ar draul y Parc

"Mae'r lle mor bwysig inni yng Nghaergybi am sawl rheswm," meddai.

"Sa'r syniad o ddymchwel y lle yn wrthyn imi, mae pawb o blaid swyddi ond nid cael gwared ar le fel hyn ydy'r ateb chwaith," dywedodd.

Gan mai dim ond caniatâd cynllunio amlinellol sydd wedi ei ryddhau a hynny'n golygu y byddai angen archwiliadau pellach, doedd Cyngor Môn ddim am wneud sylw ar y mater.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Parc wedi ennill gwobr yn ddiweddar gan ei fod yn "lle arbennig arbennig i nifer" yn ôl sefydliad Fields in Trust

Ond yn ôl llefarydd ar ran Land and Lakes mae "cynaliadwyedd y parc yn flaenoriaeth" a byddai "unrhyw barc gwyliau yn amgylcheddol sensitif".

"Mi fyddai unrhyw ddatblygiad yn digwydd dan arweiniad arbenigwyr amgylcheddol ac yn parchu yr amgylchedd."

Mae rhai ymgyrchwyr wedi honni y byddai ardal o 28 o aceri o goed yn cael eu dymchwel wrth wneud lle ar gyfer parc o'r fath.

Ond yn ôl Land and Lakes, "does dim cynllun o'r fath na chwaith i gau y safle i'r cyhoedd".

"Er bod y safle dan berchnogaeth breifat, rydym wedi ymrwymo i gadw 73 acer o'r ardal hyfryd a llwybrau i'r cyhoedd."

Pynciau cysylltiedig