Cwblhau doethuriaeth Cemeg yn llwyr trwy'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae gan un myfyriwr reswm arbennig i ddathlu yn ei seremoni raddio ddydd Mercher gan ei fod yn gallu honni ei fod wedi creu hanes.
Owain Beynon o Gaerfyrddin yw'r cyntaf yn hanes Prifysgol Caerdydd i gwblhau doethuriaeth Cemeg yn gyfan gwbl trwy'r Gymraeg.
Trwy wneud hynny fe gyfrannodd y cyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin dermau gwyddonol newydd at y geiriadur Cymraeg.
Dywedodd wrth raglen Dros Frecwast nad oedd unrhyw amheuaeth ganddo y byddai'n bosib gwneud ymchwil pellach i'r maes yn ei iaith gyntaf.
"Wi'n credu bod yna lot o'r syniad mai Saesneg yw iaith gwyddoniaeth... o'dd e'n bwysig dangos bod modd neud ymchwil gwyddonol trwy gyfrwng y Gymraeg," meddai.
Diffyg termau Cymraeg yn 'her'
Roedd diffyg termau gwyddonol Cymraeg yn gallu "bod yn her ar adegau", ond fe lwyddodd Owain i droi rhwystr yn gyfle i fathu rhai newydd.
"Roedd hynny'n agwedd eitha' cyffrous i'r doethuriaeth," dywedodd.
Fe fyddai'n cysylltu gydag arbenigwyr yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor yn y lle cyntaf pan "o'n i'n dod ar draws bwlch yn y terminoleg", gan awgrymu term Cymraeg posib gyda diffiniad o'i ystyr yn Saesneg.
"Bydden nhw'n dod yn ôl ata' i falle'n awgrymu cyfieithiad neu'n gweud [bod] be' nes i awgrymu'n 'neud synnwyr.
"Wedyn o'n i'n cysylltu â cemegwyr eraill sy'n siarad Cymraeg a gweld os maen nhw'n credu bod y term yn 'neud synnwyr yn y cyd-destun. Os yw pawb yn cytuno wedyn mae'n cael ei ychwanegu i'r geiriadur."
'Astudiaeth Gyfrifiadurol o Synthesis a Sefydlogrwydd Defnyddiau Mandyllog Anorganig' yw teitl traethawd ymchwil Owain.
Fe ddefnyddiodd wyddoniaeth gyfrifiadurol i weld sut mae'n bosib i ddefnyddio deunyddiau mandyllog (porous) ar gyfer prosesau ynni gwyrdd a chemeg cynaliadwy.
Mae'r termau newydd yn cynnwys:
Damcaniaeth dwysedd ffwythianolion (density functional theory)
Brasamcan graddiant cyffredinol (general gradient approximation)
Dull gwahaniaeth feidriadd (finite difference method)
Ar hyn o bryd mae Owain yn parhau i wneud gwaith ymchwil yng Ngholeg Prifysgol Llundain.
Byddai'n "wych", meddai, pe bai myfyrwyr eraill yn dilyn ei esiampl a chwblhau eu doethuriaeth Cemeg yn Gymraeg, gan nad yw'n ymwybodol o unrhyw un arall sydd wedi gwneud yr un peth.
Ychwanegodd fod y ffaith y bydd yn gallu gweld termau y bu'n gyfrifol am eu creu mewn geiriaduron am flynyddoedd i ddod yn "rhywbeth eitha' cŵl".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2023