Pennau busnes y dyfodol yn dysgu gwersi 'pwysig' am arian

  • Cyhoeddwyd
Plant Ysgol Gymunedol Llanfarian
Disgrifiad o’r llun,

Mae plant Ysgol Gymunedol Llanfarian wedi bod yn meddwl am syniadau fel rhan o her i ddatblygu sgiliau arian

Breichledi, cacennau a chanhwyllau - rhai o'r pethau sydd wedi bod yn sbarduno criw o entrepreneuriaid ifanc Aberystwyth i ddysgu mwy am werth arian.

Yn ôl arolwg diweddar, dydy tua hanner plant Cymru ddim wedi derbyn "addysg ariannol ystyrlon".

Roedd yn rhan o'r rheswm y gwnaeth disgyblion Ysgol Gymunedol Llanfarian gymryd rhan mewn her arbennig i ddatblygu sgiliau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod am i bobl ifanc dderbyn addysg ariannol ddefnyddiol.

Yn ôl pennaeth Ysgol Gymunedol Llanfarian, Helen Davies, dydy plant ddim yn cael cymaint o arian poced corfforol bellach, ac mae hynny'n ei gwneud hi'n anoddach iddyn nhw ddeall arian.

Felly, buodd disgyblion mentrus o'r ysgol yn rhan o Her Bumpunt, Menter yr Ifanc.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r her yn datblygu sgiliau mentergarwch y plant a'u dealltwriaeth am arian

Hanfod yr her yw tyfu busnes gyda £5 yn unig, a'r disgyblion, fel Mared, yn defnyddio gwybodaeth am yr hyn sy'n apelio, i ddewis ei syniad busnes.

"O' fi'n gwbod lot o bobl sy'n hoffi breichledi a ma nhw'n boblogaidd iawn, so o' fi just wedi penderfynu neud hynna."

Breichledi hefyd oedd cynnyrch Ela, ar ôl gweld pethau tebyg ar werth tra ar wyliau yn yr Eidal.

"O' fi just yn chwarae rownd gyda llawer o lliwiau a gweld pa rai o'dd yn edrych yn dda gyda'i gilydd."

Ar ôl gwneud holiadur i ofyn pa fath o liwiau oedd fwya' poblogaidd, dywedodd ei bod eisoes wedi gwerthu rhai'n barod i'w ffrindiau a theulu.

£560 mewn elw

Yn ystod y broses, y nod yw gwella dealltwriaeth plant o reoli arian a mentergarwch.

Yn ôl arolwg newydd ar ran y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, doedd tua hanner plant Cymru ddim wedi derbyn "addysg ariannol ystyrlon".

Defnyddiodd Eliza un o'i diddordebau i ddewis beth i wneud, sef pobi. Er mwyn arbed arian a chynyddu'r elw, fe fuodd hi'n defnyddio un o'r cynhwysion o'i chartref.

"O' fi'n cael yr wyau o'r ieir adre yn barod," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pennaeth, Helen Davies, wedi sylwi nad oes gan blant arian poced fel oedd yn arferol yn y gorffennol

Gyda hithau wedi dysgu am chwarter canrif, mae'r pennaeth Helen Davies yn dweud bod dealltwriaeth am werth arian yn bwysig.

"Os nad y'n nhw'n deall gwerth arian, yna sut fyddan nhw'n gallu creu cyllideb yn y dyfodol ac adnabod sut i gynilo ac edrych ar ôl eu harian?"

"Dwi'n falch iawn ohonyn nhw. Ma' nhw di gwitho yn annibynnol iawn, ma' nhw di gwitho'n arbennig o galed."

Ers cychwyn eu busnesau, mae'r plant ysgol wedi ennill £560 mewn elw.

Fe benderfynon rhoi hanner yr arian i elusennau Macmillan a Great Ormond Street.

Pwysleisio dysgu am arian tra'n ifanc mae rheolwr Cymru gyda'r gwasanaeth, Lee Phillips: "Mae ein profiadau mewn plentyndod yn ein paratoi ar gyfer dod yn oedolyn, ac mae'r un peth yn wir o ran dysgu am arian.

"Mae'n dod yn rhan o'n bywyd bob dydd, ac mae ein penderfyniadau ariannol yn gallu bod o fudd mawr a chael effaith ddofn, felly mae'n bwysig dysgu o oed ifanc."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Harri Jones, Swyddog Datblygu Cwsmeriaid y Principality: "Mae yna astudiaethau sy'n dangos bod yna lawer iawn o blant yng Nghymru sydd ddim yn cael addysg ariannol mewn ysgolion nac adref.

"Mae'r Her Bumpunt yn rhywbeth rydyn ni'n teimlo'n gryf amdano.

"Mae'n ffordd hwyl o helpu plant i ddysgu am sut i ymdrin ag arian a sut i gychwyn busnes o fewn tua pedair wythnos.

"Rydyn ni wedi teimlo ers amser hir bod angen addysgu plant i fod yn fwy hyblyg gyda arian ac i fod yn fwy barod ar gyfer bywyd fel oedolyn, sut i drin arian ac i beidio mynd i drafferth ariannol."

'Eu cefnogi ar gyfer y dyfodol'

Yn ôl canllawiau'r cwricwlwm cenedlaethol newydd i Gymru, sydd yn y broses o gael ei gyflwyno, dylai addysg ariannol a mentergarwch gael ei gynnwys mewn gwersi.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae dysgu am arian a chyllid yn rhan o'r cwricwlwm newydd ar gyfer plant 3 i 16 oed, a ddechreuodd ym mis Medi 2022.

"Rydym am i bobl ifanc derbyn addysg ariannol ddefnyddiol i'w cefnogi ar gyfer y dyfodol."

Pynciau cysylltiedig