Dyn o Gaerdydd wedi'i gyhuddo o droseddau terfysgaeth

  • Cyhoeddwyd
Llys Ynadon WestminsterFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y dyn 22 oed o Gaerdydd ei arestio gan uned heddlu gwrthderfysgaeth

Mae dyn o Gaerdydd wedi cael ei gyhuddo o droseddau terfysgaeth.

Cafodd y dyn 22 oed ei arestio gan uned heddlu gwrthderfysgaeth Gorllewin Canolbarth Lloegr, ynghyd ag uned gwrthderfysgaeth Cymru ddydd Llun.

Mae wedi'i gyhuddo o bedwar achos o feddu ar ddogfennau defnyddiol i derfysgwr a chwe achos o ddosbarthu deunydd terfysgol.

Bydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher.

Pynciau cysylltiedig