Dyn yn euog o dwyll ar ôl peintio teils yn lle eu hailosod

  • Cyhoeddwyd
PaentFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Ceredigion
Disgrifiad o’r llun,

Gwnaeth delweddau cylch cyfyng ddangos Price yn gadael tŷ'r dioddefwr gyda deunydd paentio

Mae dyn wedi derbyn gorchymyn cymunedol am dwyllo cwsmer yng Ngheredigion drwy beintio teils yn lle eu hailosod.

Gwnaeth Peter Billydean Price, 25 oed, o Gilgeti, Sir Benfro, bledio'n euog i ddau achos o dwyll yn Llys Ynadon Aberystwyth.

Clywodd y llys fod Price wedi derbyn taliad o £4,600 ym mis Ionawr 2022 er mwyn ailosod teils crib ar do tŷ'r dioddefwr.

Dywedodd yr erlyniad fod Price wedi gwneud addewidion ysgrifenedig camarweiniol, ac yn lle ailosod y teils gwnaeth ef a'i ddau bartner beintio'r teils presennol er mwyn ceisio twyllo'r dioddefwr fod teils newydd wedi cael eu defnyddio.

Gwnaeth delweddau teledu cylch cyfyng ddangos bod Price a'i bartneriaid wedi treulio llai na thair awr a hanner yn nhŷ'r dioddefwr a'u bod wedi gadael gydag offer peintio.

Ychwanegodd yr erlyniad fod Price wedyn wedi anwybyddu galwadau ffôn gan y dioddefwr.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Ceredigion
Disgrifiad o’r llun,

Dangosodd delweddau o ddrôn nad oedd y gwaith wedi'i wneud gan döwr proffesiynol a bod paent oren wedi cael ei ddefnyddio yn lle teils newydd

Dywedodd cyfreithiwr Price ei fod wedi dibynnu ar gyn-weithiwr a oedd â gwybodaeth am doi i arwain y gwaith, gan nad dyma waith pennaf Price.

Gwnaeth Price gydnabod fod y ffi yn ormodol a dywedodd ei fod yn edifeiriol.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux: "Ar adeg pan fo llawer o aelwydydd yn ei chael hi'n anodd yn ariannol, mae'r achos hwn yn dangos y gwaith gwerthfawr y mae Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd y Cyngor yn ei wneud i amddiffyn unigolion yn ein cymuned rhag masnachwyr twyllodrus, ac yn ei dro, yn dod â chyfiawnder i'r rheini yr effeithir arnynt gan y troseddwyr dideimlad hyn."

Cafodd Price ddedfryd o orchymyn cymunedol 12 mis sy'n cynnwys cwblhau150 awr o waith di-dâl a bydd hi'n ofynnol iddo dalu iawndal o £4,081 i'r dioddefwr.

Pynciau cysylltiedig