Galw uned ddifa bomiau i bentref yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
Rob Parkin
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Rob Parkin heb sylweddoli fod y ddyfais yn un oedd yn peri cymaint o risg

Bu'n rhaid galw uned difa bomiau i bentref yng Ngwynedd ddydd Iau i ddelio â hen ddyfais heb ffrwydro oedd wedi bod yng ngardd preswylydd ers rhyw 20 mlynedd.

Fe deithiodd swyddogion arbenigol o Lerpwl i Rachub, ar gyrion Bethesda, mewn ymateb i alwad i'r heddlu gan Rob Parkin, oedd wedi dod ar draws y gwrthrych mewn ardal chwarel leol a'i gludo adref.

Dywedodd ei fod wedi meddwl am gysylltu â'r awdurdodau sawl tro dros y blynyddoedd rhag ofn bod yna risg iddo ffrwydro, a'i fod yn "teimlo'n eitha' twp" ond "wedi dysgu gwers" ar ôl i'r bom mwg gael ei gludo o'r safle.

Bu'n rhaid sicrhau bod neb o fewn 100 metr i'r ddyfais, yn Stryd Britannia, wrth i'r uned asesu'r gwrthrych a phenderfynu sut i'w drin.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd yr uned difa bomiau o Lerpwl ei anfon i Stryd Britannia, Rachub ddydd Iau

Mewn rhostir yn ardal Chwarel Bryn y daeth Mr Parkin o hyd i'r ddyfais, "ei godi ac - yn hurt - dod ag o adra a'i adael ar yr ochr" yn rhan o'i ardd.

"Doedd o ddim yn y lle gorau tasai rhywbeth wedi cael ei daflu arno," dywedodd.

"Roedd yn croesi fy meddwl o bryd i'w gilydd 'O, ia, falle bod yna fom yn eistedd yn yr ardd'. Ond dim ond nes i'r plant fod yna'n chwarae yn ddiweddar nes i feddwl 'well i mi 'neud rywbeth ynghylch hynna'."

Fe ffoniodd yr heddlu ac fe wnaethon nhw gysylltu â'r uned difa bomiau.

Disgrifiad o’r llun,

Yn y rhan yma o'r ardd y bu'r bom yn eistedd, ers i Rob Parkin ei osod yno 20 mlynedd yn ôl

"Ro'n i wedi meddwl taw bom mortar oedd o ond bom mwg oedd o," dywedodd. "Doedd o ddim yn high explosive ond roedd yn dal efo'r potensial i ffrwydro ac achosi rhyw fath o ddifrod petasai wedi cael ei daflu o gwmpas.

"Mae'n debyg bod y deunyddiau tu fewn i'r bom yn dod yn fwy ymfflamychol ac ansefydlog wrth i amser fynd heibio, felly roedd hynny ar fy meddwl hefyd.

"Dywedodd dyn y bomb squad 'Beth bynnag wnewch chi, peidiwch â mynd o gwmpas yn codi petha' fel 'na i fyny yn y dyfodol' - rhywbeth wna'i ddim!

"Yndw, dwi'n teimlo'n eitha' twp ond dwi'n dawel fy meddwl rŵan bod o ddim yna ddim mwy. Dwi wedi dysgu gwers."

Pynciau cysylltiedig