'Angen sicrwydd' gan Lywodraeth DU i'r diwydiant niwclear
- Cyhoeddwyd
Mae un o gwmnïau niwclear mwyaf y byd yn dweud fod angen mwy o sicrwydd gan Lywodraeth y DU i'r diwydiant niwclear.
Daw hynny wrth i gwmni Westinghouse - sy'n cyflogi oddeutu 10,000 o weithwyr ar draws y byd - agor swyddfa newydd ar Ynys Môn gan greu 15 o swyddi i ddechrau.
Canolbwynt eu gwaith fydd dad-gomisiynu adweithyddion niwclear ac yn ôl y cyfarwyddwr, Mel Jones, sy'n Gymro o Fôn yn wreiddiol.
Mae'n gobeithio y bydd dod â swyddi i M-Sparc hefyd yn cadw pobl ifanc rhag gorfod symud o'r fro.
Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais i ymateb.
Mae gan gwmni Westinghouse swyddfeydd mewn gwledydd fel China, Japan a'r UDA, ac M-Sparc ar Ynys Môn yw'r diweddaraf.
Wrth sefydlu'r hwb dad-gomisynu niwclear fe ddywedodd Mel Jones mai'r gobaith oedd recriwtio 15 o bobl yn y 12 mis cyntaf, cyn ehangu i 45 y flwyddyn ganlynol gyda'r gobaith o dyfu'n bellach wedyn.
'Datblygu pobl leol'
Ar ddiwrnod agored yn M-Sparc, bu Cyfarwyddwr Dadgomisynnu Adweithyddion Westinghouse yn sôn am uchelgais y cwmni.
"Mae 'na hanes mawr o ynni niwclear yng ngogledd Cymru, yn Wylfa a Thrawsfynydd a 'da ni eisiau trio tapio mewn i hynny," meddai Mr Jones wrth Newyddion S4C.
"Fydd y bobl fydd yn sefydlu yn fan hyn yn gallu gweithio ar unrhyw brosiect ar draws y byd i ni."
Mae'r sefydliad yn darparu technoleg sy'n rhan greiddiol o dros 40% o adweithyddion niwclear y byd, a 60% o rai'r UDA.
Wrth drafod safleoedd Wylfa Newydd a Thrawsfynydd, dywedodd Mr Jones mai eu prif nod oedd canolbwyntio ar waith dad-gomisiynu.
"'Dan ni eisiau gwneud y gwaith yna er mwyn datblygu pobl leol i fedru gwneud y gwaith yn Nhrawsfynydd a Wylfa," esboniodd.
Wrth drafod dyfodol adweithyddion newydd, dywedodd Mr Jones ei fod "yn credu y bydd" rhai newydd, ond mai ei "farn bersonol oedd hynny".
"Mae angen egni niwclear ym Mhrydain i sefydlu'r ynni 'dan ni angen dros y blynyddoedd 'dan ni angen, yn enwedig ynni sydd yn wyrdd ac yn garbon niwtral unwaith mae'r stations i fyny," meddai.
Ym mis Mai fe ddywedodd Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan fod angen mwy o "ymrwymiad" gan Lywodraeth y DU i godi atomfa newydd yn Wylfa.
"Dwi'n meddwl fod y diwydiant ei hun angen mwy o sicrwydd," medd Mel Jones.
"Mae angen mwy o symud ymlaen a dwi'n gobeithio fydd Great British Nuclear, sydd wedi ei sefydlu rŵan, yn rhoi hynny ac yn ffocysu yn fanwl ar y sites sydd wedi eu selectio."
'Gwneud fan hyn yn fyd eang'
Gyda sawl ergyd economaidd wedi effeithio ar Fôn dros y blynyddoedd diwethaf, dywedodd Mr Jones fod y cwmni wedi eu hymrwymo i Gymru a'r ynys.
"'Dan ni wedi agor y swyddfa heddiw ac ar bwynt personol... dwi'n hogyn o'r ynys a fi ydi'r Director of Enterprise yn fan hyn," meddai.
"Pan nes i adael yr ysgol, nes i adael yn 16 i ymuno efo Rio Tinto a ma' hwnnw wedi mynd i'r ochr rŵan. Nes i brentisiaeth, yna i'r brifysgol a datblygu yn hirach wedyn.
"Ond y peth sydd wedi sticio yna fi ydi'r ffaith bo' fi wedi gorfod gadael yr ynys i ffeindio ffordd i fyny ac i ddatblygu fy hun.
"Be' dwi isio 'neud fel mater personol ydy agor y lle yma i roi cyfleoedd i bobl sy'n dod allan o'r brifysgol a'r ysgol, i gael gwaith lleol ac i aros ar yr ynys i ddatblygu eu hunain.
"'Dan ni wedi seinio'r lease am y tymor hir a 'dan ni'n mynd i fuddsoddi yn yr ardal, a gwaith fedran ni 'neud yn fan hyn yn fyd eang."
Cefnogi swyddi
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Diogelwch Ynni a Net Sero: "Yr wythnos ddiwethaf fe wnaethon ni lansio Great British Nuclear i gynorthwyo i gyrraedd ein huchelgais o gael ein hynni o ynni niwclear cartref erbyn 2050.
"Yr amcangyfrif yw y bydd hynny'n creu biliynau i economi'r DU, gan gynnwys Cymru.
"Mae hyn yn ychwanegol i'r miliynau o bunnoedd yr ydym yn buddsoddi wrth i ni gefnogi busnesau i ddatblygu technolegau niwclear, a chefnogi miloedd o swyddi ar draws y DU."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai 2023
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2022