Annog Sunak i ddod ag 'ansicrwydd' dyfodol Wylfa i ben

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Safle gorsaf niwclear y Wylfa, ger CemaesFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae AS Ceidwadol blaenllaw wedi annog prif weinidog y DU i roi stop ar "ragor o ansicrwydd" ynghylch codi atomfa Wylfa Newydd yn Ynys Môn.

Dywedodd cyn-Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb ei fod yn poeni am "golli momentwm" wrth weithredu strategaeth ynni newydd y DU.

Daw ei lythyr at Rishi Sunak flwyddyn wedi i gynllun gael ei gyhoeddi i geisio sicrhau bod Prydain llai dibynnol ar wledydd eraill am ynni.

Dywedodd gweinidogion y DU fod Wylfa yn parhau i fod yn ymgeisydd cryf ar gyfer ynni niwclear newydd.

Mr Crabb yw cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan.

Mae'r pwyllgor wedi dechrau ymchwiliad i ynni niwclear yng Nghymru, wedi i Lywodraeth y DU gyhoeddi Strategaeth Diogelwch Ynni'r DU fis Ebrill y llynedd.

Cyfeiriodd y strategaeth at nod o godi wyth atomfa newydd cyn 2030, a chreu corff newydd, Great British Nuclear, i oruchwylio'r gwaith o wireddu'r cynlluniau.

Dan y cynllun, byddai ynni niwclear yn cyflenwi 24 gigawat (GW) o drydan erbyn 2050 - tua 25% o'r galw disgwyliedig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fyddai atomfa newydd yn dod â swyddi hirdymor a chyflogau da i ardal wledig, medd Stephen Crabb

Yn ei lythyr, dywedodd Mr Crabb, AS Preseli Penfro: "Fe nododd y strategaeth bod Wylfa, yng ngogledd Cymru, yn lleoliad posib ar gyfer project ynni newydd posib.

"Ers hynny, rydym wedi clywed pryderon cynyddol bod yna golli momentwm o ran gwireddu strategaeth y llywodraeth ac, yn sgil hynny, rhagor o ansicrwydd dros ddyfodol safle Wylfa."

Mae Mr Crabb yn dyfynnu Simon Bowen, ymgynghorydd i'r llywodraeth o ran sefydlu Great British Nuclear, a rybuddiodd y pwyllgor y bydd yn "drychinebus pe bydden ni'n aros ddwy flynedd arall" oherwydd byddai'r "diwydiant cyfan yn colli ffydd".

"Rydym wedi clywed gan ystod eang o gynrychiolwyr o'r diwydiant bod Wylfa yn cael ei ystyried fel y safle gorau trwy'r DU ar gyfer datblygiad niwclear newydd," meddai.

"Yn wir, mae'n anodd gweld sut y gallai'r llywodraeth wireddu ei huchelgeisiau niwclear heb symud ymlaen gyda phroject yn Wylfa."

Ychwanegodd y byddai project seilwaith mor fawr yn "dod â chyfleoedd gwaith tymor hir gyda sgiliau a chyflog da i ran wledig o'r DU".

Daeth cynllun blaenorol i ddatblygu atomfa newydd ym Môn i ben yn 2020, wedi i gwmni Hitachi fethu â dod i gytundeb ariannol gyda gweinidogion San Steffan.

'Allweddol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae niwclear yn rhan allweddol o'n diogelwch ynni, ac yn fodd i leihau costau trydan.

"Y llynedd dangosodd yr ysgrifennydd diogelwch ynni ein hymrwymiad i niwclear drwy fuddsoddi rhan uniongyrchol yn natblygiad prosiect niwclear am y tro cyntaf ers 1987.

"Mae safle Wylfa Newydd yn parhau i fod yn ymgeisydd cryf ar gyfer ynni niwclear newydd, yn gigawat ac adweithyddion modiwlaidd bach, ac rydym yn cydnabod y diddordeb a'r gefnogaeth gref i ynni niwclear ar draws gogledd Cymru."