Deugain mlynedd o gludo pianos i'r brifwyl
- Cyhoeddwyd
Unawd offerynnol, dawnsio gwerin, cyfeiliant i gôr, ymarferion, cyngherddau... fyddai'r Eisteddfod ddim yn Eisteddfod heb bianos. A'r un cwmni sydd yn sicrhau fod yna ddigon o bianos ledled y maes bob blwyddyn, a hynny ers 40 o flynyddoedd.
Mae Pianos Cymru - gynt yn dwyn yr enw Siop Eifionydd - wedi darparu a thiwnio pianos yr Eisteddfod Genedlaethol ers Steddfod Ynys Môn yn 1983.
Cafodd Aled Hughes ar Radio Cymru sgwrs gyda sylfaenydd y cwmni, Robin Jones, a'i fab, Ian, am eu profiadau a'r grefft gynnil, dechnegol o sicrhau fod pianos y brifwyl mewn tiwn.
"Yn y blynyddoedd cynta', argol, oeddan ni'n cario pianos!" cofia Ian, sydd bellach yn rhedeg y cwmni.
"Doedd o ddim yn beth anghyffredin i ni bod y Steddfod yn defnyddio 30 o bianos - a mwy 'wrach - ac mi fyddai ganddon ni bianos ym mhob man. Felly fyddai'r Steddfod yn waith tair/pedair wythnos yn paratoi, mynd yno yr wythnos ei hun, a'u nôl nhw... a cofio lle maen nhw i gyd!"
Mae cofio lle mae'r pianos yn rhan bwysig o'r broses, pwysleisiai Robin, oherwydd un flwyddyn cafwyd anffawd...
"Eisteddfod Llandeilo dwi'n meddwl, o'dd ganddon ni 30 o bianos, ac mi anghofiais i un... mi ges i alwad ffôn tua'r dydd Iau ar ôl y Steddfod.
"Es i lawr i'w hôl hi ddydd Gwener, ac o'dd 'na un piano yn sefyll ar sheet o hardboard yng nghanol y cae, a'r pafiliwn wedi mynd!"
Parhau â hen grefft
Busnes gwerthu cardiau, llyfrau a cherddoriaeth oedd Siop Eifionydd yn wreiddiol, pan agorodd Robin a'i deulu'r siop ym Mhorthmadog ddechrau'r 70au.
Nid prynu a gwerthu pianos oedd y bwriad o gwbl, eglurodd, ond bellach mae'r cwmni yn darparu pianos i wyliau a digwyddiadau ledled Cymru - gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd a Llangollen, ynghyd â'r Eisteddfod Genedlaethol - yn gwerthu i gwsmeriaid, ac yn cynnig gwasanaeth tiwnio; crefft sydd yn brysur ddiflannu, meddai Ian.
"Dwi'n meddwl fod yna fwy ohonon ni'n marw na sy'n dod allan o brentisiaeth! Ac yn anffodus, mae'r colegau tiwnio yn dirywio o ran safon ac o ran faint ohonyn nhw sydd o gwmpas. Mae 'na le i hogiau ifanc i fod yn diwnars ac i 'neud rhywbeth arall hefyd, fel ailwneud, bach o waith coed...
"Yng Nghymru, mae rhywun yn gorfod teithio dipyn yn hytrach na hogiau Llundain sy'n gallu gweithio yn Llundain, ond mae'r gwaith yna, 'mond i chwilio amdano fo a gwneud y job yn iawn, a mynd yn ôl y flwyddyn nesa'!"
Tiwnio piano mewn cae
Ynghyd â darparu'r holl bianos sy'n cael eu defnyddio yn y brifwyl, mae'n rhaid i dîm Pianos Cymru hefyd eu tiwnio'n ddyddiol er mwyn i'r offeryn swnio ar ei gorau.
Un peth sydd yn hanfodol yn y swydd yna, meddai Ian, ydi adnabod y cystadlaethau a gwybod sut fath o ddefnydd fydd piano penodol yn ei brofi y dydd hwnnw:
"'Da ni'n mynd yn y bore i diwnio, ac os oes 'na gystadleuaeth unawd, ti'n gwybod fod 'na 10-15 am drio, yn canu dau ddarn yr un, sy'n 30 darn... sy' fwy neu lai yn ddau gyngerdd... Ti'n gwybod fod y piano am gael ei hamro. A piano arall sydd efo unawd alaw werin, lle ti ond isio nodyn. Felly ti'n gwybod pa un ti am dreulio mwy o amser arni. 'Wrach y diwrnod wedyn 'sa fo'n hollol fel arall.
"Dwi'n meddwl gan bo' ni'n Gymry, fod gynnon ni rhyw fath o syniad... 'wrach 'sa pob un tiwnar ddim yn rhoi'r amser sydd ei angen ar y piano yna."
Ac nid pob un tiwniwr piano proffesiynol sydd â'r her o drin a thrafod pianos sydd yn treulio wythnos mewn adeilad dros dro mewn cae! Beth yw'r her sy'n wynebu'r tîm wrth ddelio gydag offeryn sydd wedi cael ei effeithio gan wres, oerfel a lleithder yr amgylchedd yna?
"Hwnna 'di'r bwgan a dyna pam ein bod ni'n cymryd unrhyw gyfle i neidio ar biano i newid nodyn yma ac acw. [Gyda'r] piano mawr ar y llwyfan, 'da ni'n gorfod rhoi gorchudd reit dew arni, achos ei bod hi'n mynd yn oer gyda'r nos.
"'Da ni'n dechrau tiwnio tua 5.30/6 y bore, ac mae'r piano'n oer. Mewn rhyw awr, fydd 'na olau arni, ac erbyn fod y llwyfan wedi dechrau, mae hi'n boeth yna.
"O fod yn oer, mae'r ffrâm yn c'nesu, a'r tannau'n chwyddo... sy'n golygu fod y piano'n fflatio. Felly yn fuan yn y bore, 'da ni'n siarpio'r piano.
"Pan mae pobl yn gofyn pam fod y piano ar y llwyfan werth £100,000, y rheswm pam ydi fod y piano yn gweithio efo'r tiwnar a be' sydd o'i hamgylch hi. Dyna safon."
Dathlu carreg filltir
Mae'r tîm wrth eu boddau mai Eisteddfod leol yw'r un i nodi'r deugain, ac mae Ian yn edrych ymlaen yn arw amdani, gan gofio'n ôl yn felys am yr Eisteddfodau a fu:
"'Dan ni 'di cael mynd i lefydd lle fasan ni ddim yn mynd fel arfer, a chyfarfod pobl. Dwi'n eitha' emosiynol yn meddwl am y peth, mod i 'di cael y fraint o wneud... dwi'n gwybod mai gweithio ydan ni, ond mae 'di bod yn fraint.
"Mae'r diolch yna i Dad. Heb iddo fo ddechrau yn y byd pianos, 'swn i ddim yn gneud be' dwi'n ei 'neud.
"Mae hi yn garreg filltir, a dwi'n falch iawn o fod yn rhan ohono. Mae o'n rhan o be' ydan ni - a gobeithio gawn ni gario 'mlaen am 40 mlynedd arall!"
Hefyd o ddiddordeb: