Ai Fairbnb yw'r ateb i broblemau 'gor-dwristiaeth'?

  • Cyhoeddwyd
Dani RobertsonFfynhonnell y llun, Ryan Scott Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Dani Robertson: "Mae bron yn amhosib i bobl leol gael tŷ, mae'r prisiau lot rhy uchel erbyn hyn"

"Mae calon y pentref wedi diflannu... mae twristiaeth wedi mynd yn rhy bell." 

Cafodd Dani Robertson, 33, ei magu yn Rhosneigr ar Ynys Môn, ond wrth dyfu i fyny mae'n dweud fod y pentref wedi newid, gan roi'r bai ar dwristiaeth.

Mae'n dweud bod ei phentref wedi mynd o fod "yn gymuned Gymraeg clos lle'r oedd ei chymdogion yn debyg i deulu", i bentref sydd wedi "colli ei galon oherwydd gor-dwristiaeth".

Mae mentrau wedi dechrau yng Nghymru sydd â'r nod o gynnig opsiynau cynaliadwy yn y farchnad - Fairbnb.

Yn ôl Cyngor Sir Ynys Môn mae'r sector twristiaeth yn bwysig i'r ynys gan gyfrannu £342m i'r economi yn 2021.

Yn Rhosneigr, roedd 367 o lefydd i ymwelwyr eu rhentu [ar 18 Gorffennaf], yn ôl data a'i gasglwyd gan gwmni AirDNA. Yn y cyfamser dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod 4,375 o ddefnyddwyr llety gwyliau ar draws Môn yn ystod mis Mehefin.

Ar yr un pryd, mae Cyngor yr Ynys yn delio gyda 908 o geisiadau gan bobl yn chwilio am dai cymdeithasol i fyw ynddyn nhw [ffigyrau 13 Gorffennaf]. 

'Amhosib i bobl leol gael tŷ'

Ar ôl cyfnod yn byw y tu allan i Gymru, llwyddodd Dani Robertson i gael ei "swydd ddelfrydol" yn y gogledd.

Ond, wrth ddechrau'r broses o chwilio am lefydd i fyw yn ei phentref genedigol, sylwodd ar yr her oedd o'i blaen. 

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn Rhosneigr, ganol Gorffennaf, roedd 367 o lefydd i ymwelwyr eu rhentu ganol y mis

Dywedodd: "Mae bron yn amhosib i bobl leol i gael tŷ, mae'r prisiau lot rhy uchel erbyn hyn.

"Edrychais am fisoedd ar ôl cael swydd ond yn y diwedd nes i fethu a dwi wedi gorfod symud i bentref arall.

"Pan o'n i'n blentyn mi oedd ein stryd ni'n llawn pobl leol, nawr dau neu dri sydd ar ôl, mae gweddill y tai yn dai haf neu ar y farchnad rhent gwyliau.

"Dwi'n methu gweld ffordd nôl i'r pentref yma rŵan, a dwi'n gweld yr un peth yn digwydd mewn pentrefi arall ar draws Cymru, mae'n hynod o drist." 

Fairbnb

Gor-dwristiaeth sbardunodd grŵp o Venice yn yr Eidal i greu menter gydweithredol o'r enw Fairbnb, gyda'r nod o wneud twristiaeth yn fwy cynaliadwy. 

Fel y mwyafrif o blatfformau rhentu gwyliau, mae Fairbnb yn cymryd comisiwn, ond mae hanner yr arian yn mynd i brosiectau cymunedol. 

Mae disgwyl hefyd i'r perchnogion fyw yn yr ardal, a rhentu allan dim ond un llety, gyda'r gymuned leol yn cael dweud eu dweud ar ba mor briodol yw'r lle.

Erbyn hyn mae 'na dri llety gwyliau cynaliadwy yng Nghymru, sydd mewn partneriaeth efo Fairbnb. 

Un o'r rheiny ydy Llety Arall yng Nghaernarfon.

Disgrifiad o’r llun,

Menna Machreth: "Gwneud yn siŵr bod yr effaith y' ni'n cael yn un positif i Gaernarfon ac nid yn tynnu o'r gymuned"

Dywedodd Cadeirydd y fenter, Menna Machreth: "Yn gyffredinol byddai pobl yn dweud bod twristiaeth yn digwydd yn yr ardal, ond nid ar ein telerau ni.

"Felly er bod yr ardal yn elwa o dwristiaeth yn aml iawn mae'r dwristiaeth yna yn gadael ei ôl.

"Felly mae mor bwysig i ni ein bod ni, trwy gydweithio â rhywun fel Fairbnb, yn gwneud yn siŵr bod yr effaith y' ni'n cael yn un positif i Gaernarfon ac nid yn tynnu o'r gymuned."

Mae gan Fairbnb fwriad i gael llysgenhadon sy'n byw o fewn cymunedau ac sy'n gallu siarad ar ran y bobl leol.

'Diwydiant twristiaeth cynaliadwy'

Fe ddywedodd Suzy Davies, Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru, wrth raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru ei bod hi'n dymuno'n dda i gynllun Fairbnb.

"Mae'n rhoi siawns i ni yng Nghymru roi tro diddorol iawn ar yr arfer o fusnesau'n rhoi rhywfaint o'u helw i elusennau, er enghraifft… chwarae teg i fusnesau sy'n dewis cymryd rhan.

"Ni gyd eisiau diwydiant twristiaeth sy'n gynaliadwy."

Disgrifiad o’r llun,

Emma Roberts: "Does dim ffordd i bobl leol talu'r prisiau rŵan"

Un arall sy'n gobeithio am ffyrdd mwy cynaliadwy o gynnal y sector twristiaeth yw Emma Roberts sy'n gweithio yn Rhosneigr.

Mae hi, fel Dani, wedi sylwi ar newid yn y pentref.

"Mae'n ofnadwy o brysur yma yn yr haf, rhy brysur," meddai.

"Ond, yn y gaeaf mae fel rhyw fath o ghost town. Tydi prisiau yma dim byd i bobl sy'n dod o drefi mawr.

"Maen nhw'n dod yma a phrynu ail dŷ neu'n rhentu'r lle allan fel rhywle gwyliau. Does dim ffordd i bobl leol dalu'r prisiau rŵan."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhosneigr yn gyrchfan gwyliau boblogaidd

Mewn ymateb fe ddywedodd Cyngor Sir Ynys Môn: "Mae twristiaeth yn bwysig i'r Ynys, ac yn ystod 2021 cyfrannwyd £342m i economi Ynys Môn gyda'r sector yn cefnogi mwy na 3,600 o swyddi.

"Er hyn, rydym yn cydnabod bod cynnydd ym mhoblogrwydd Ynys Môn fel lleoliad ar gyfer ail gartrefi yn creu ei effeithiau, heriau a phryderon ei hun o ran cynnal cymunedau cynaliadwy.

"Fodd bynnag, rydym yn gwneud y defnydd gorau posibl o Bremiwm y Dreth Gyngor a chyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.

"Rydym eisoes wedi darparu bron i £1.5m ar gyfer prosiectau cronfa premiwm y dreth gyngor er mwyn bodloni'r galw am dai lleol, yn ogystal â helpu prynwyr tro cyntaf. 

"Fel Cyngor Sir, rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i fanteisio ar gyfleoedd ond hefyd i reoli'r effeithiau er budd trigolion a chymunedau."

Fe ychwanegodd Airbnb mewn datganiad: "Mae Airbnb yn cefnogi rheolau newydd ac yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i helpu awdurdodau lleol i amddiffyn teuluoedd bob dydd sy'n rhannu gofod yn eu cartrefi, a mynd i'r afael â phobl sy'n creu pryderon ynghylch tai a gor-dwristiaeth."