Cwmni carioci i gynnig caneuon Cymraeg am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Dafydd Iwan yn canu Yma o Hyd ar ddiwedd buddugoliaeth Cymru yn erbyn yr WcrainFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth miloedd o bobl ar draws y gân Yma o Hyd am y tro cyntaf y llynedd oherwydd ei chysylltiad â thîm pêl-droed Cymru

Diolch i lwyddiant diweddar y gân 'Yma o Hyd' gan Dafydd Iwan, mae cwmni carioci o Loegr sy'n dosbarthu caneuon ar draws y byd wedi penderfynu cynnig caneuon yn y Gymraeg am y tro cyntaf.

Mae penderfyniad cwmni Sunfly yn cael ei ystyried yn un all fod yn hwb i'r iaith i'r dyfodol, ac mae'n dilyn blynyddoedd o alw ar y cwmnïau mawr i gynnwys mwy o ganeuon Cymraeg.

Dyna fu apêl Bryn Hughes - Bryn Bach Carioci i'w ffrindiau - am y rhan helaeth o'r chwarter canrif y mae wedi eu treulio'n crwydro'r clybiau a'r tafarndai gyda'i offer carioci.

"Mae'r hogia' ifanc dyddie 'ma, maen nhw isie canu mwy o ganeuon Cymraeg mae'n nhw'n w'bod," dywedodd.

Disgrifiad,

Pa ganeuon Cymraeg fyddech chi'n hoffi eu canu mewn carioci?

"Yr hen ganeuon oedd gennon ni o'r blaen, fel 'Defaid William Morgan'... dim byd yn matar efo Defaid William Morgan, ond o'dd Nain yn canu honna, a dwi'n 58.

"Dydy pobl ifanc dyddia' yma ddim isio canu'r caneuon yna.

"Mwy a mwy o ganeuon Cymraeg sydd isio, er mwyn i'r hogia' ifanc yma gael canu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl eisiau canu caneuon Cymraeg cyfoes mewn digwyddiadau carioci, medd Bryn Hughes

'Diwrnod gora' o waith erioed'

Yn sgil poblogrwydd cân eiconig Dafydd Iwan yn ystod ymgyrch tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd y llynedd, mae'n ymddangos bod un o gwmnïau carioci mwya'r byd wedi gwrando.

Mae hefyd yn help bod un o'r cynhyrchwyr gyda Sunfly, Danny Beck, yn Gymro sy'n hanu o Wrecsam.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Danny Beck, sy'n hanu o Wrecsam, yn falch iawn o'r cyfle i gael cynhyrchu cân Gymraeg fel rhan o'i waith gyda chwmni Sunfly

"Ro'n i yn Benidorm ar stag-do, roeddan ni mewn bar carioci, ac roedden ni gyd isio canu Yma O Hyd... doedd o ddim ar y jiwcbocs, ond naethon ni ei chanu yn y bar beth bynnag," meddai.

"Pan ddois i adre, 'chydig fisoedd wedyn, roedd pethau'n dechra' poethi yn enwedig gan fod Cymru'n mynd i Gwpan y Byd.

"Ges i gais i greu'r greu'r gân carioci a 'swn i'n ei ddisgrifio fel y diwrnod gora' yn y gwaith erioed.

"Roedd o'n rhywbeth ro'n i wirioneddol eisiau gwneud."

'Anhygoel'

Mae'r cwmni wedi ailgyhoeddi rhagor o glasuron - 'Hawl i Fyw' gan Dafydd Iwan, dwy gân gan Bryn Fôn sef 'Rebal Wicend' ac 'Un Funud Fach', ac 'Ysbryd y Nos' gan Edward H Dafis.

Mae'r cerddor a'r cyfansoddwr o Sir Conwy, Alistair James yn dweud ei fod wrth ei fodd bod y cwmni bellach yn cynnwys un o'i ganeuon yntau, 'Angel', ac mae ganddo reswm arbennig am hynny.

"Mae'n anhygoel o beth achos nes i ddechrau 'ngyrfa yn rhedeg carioci yma yn Llanfairfechan ac o'n i'n defnyddio CDs Sunfly," meddai enillydd cystadleuaeth Cân i Gymru eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Alistair James wrth ei fodd bod Sunfly yn cynnwys un o'i ganeuon

"Fel hogyn sy'n dal i ganu carioci pan dwi allan efo'r hogia' ar noson allan mae'n rhywbeth mor, mor cŵl, ac i gwmni fatha Sunfly, sy'n adnabyddus rownd y byd, i roi bach o sylw i'r iaith Gymraeg, ma' hwnna'n beth da iawn.

"Yn yr hen ddyddiau roedd petha' ar CD wrth gwrs, ond erbyn hyn ma' pob dim yn cael ei ffrydio a gyda chwmni fatha Sunfly rŵan, fyddan nhw efo cariocis ledled y byd.

"Felly pwy a ŵyr, falle fydd 'na rywun yn Tokyo yn canu Rebal Weekend - gawn ni weld!"

Disgrifiad o’r llun,

Byddai mwy o ddewis caneuon Cymraeg yn plesio Bryn Hughes yn arw

Mae Bryn Hughes yn galw erbyn hyn am drosi rhagor o ganeuon cyfoes ar gyfer y bobl mae'n eu diddanu gyda'i nosweithiau carioci.

"Mae 'na ddigon o grwpiau allan yna - Bwncath, Yws Gwynedd, Fleur de Lys - a does yna ddim math o ganeuon fel 'na iddyn nhw allu canu," meddai.

Ac mae'n ymddangos bod Sunfly yn barod i wrando eto.

"Os ydy'r galw yna, os oes yna gân Gymraeg boblogaidd arall sydd ar goll ganddon ni, nawn ni fo," meddai Danny Beck.

"Os mae pobl eisiau ei chlywed, a'i chanu mewn carioci... wnawn ni ei chynhyrchu.

"Fedar o ond fod yn beth da i gael yr opsiwn i ganu caneuon Cymraeg os 'dach chi isio... mae'n bwysig o ran cadw'r Gymraeg yn fyw, am wn i."