Dolbadarn: Ymchwilio i ddifrod i'r castell yn Llanberis

  • Cyhoeddwyd
Castell DolbadarnFfynhonnell y llun, Verity Milligan / Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Castell Dolbadarn ei adeiladu yng nghyfnod Llywelyn Fawr

Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i rywun ddefnyddio morthwyl i achosi difrod i dŵr Castell Dolbadarn yn Llanberis.

Mae'r castell yn nodwedd eiconig ar lannau Llyn Padarn, ac yn ôl yr heddlu mae'n debyg i'r difrod ddigwydd rhyw bryd yng nghanol Gorffennaf.

Cafodd yr heddlu eu rhybuddio gan Cadw, y corff sy'n edrych ar ôl henebion yng Nghymru.

Nid yw'n glir ar hyn o bryd faint o ddifrod sydd wedi cael ei achosi i'r adeilad.

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth gan y cyhoedd.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd un o gerrig y tŵr crwn ei dynnu o'i le gan syrthio i'r ddaear sawl metr i lawr

Dywedodd yr heddwas cymorth cymunedol lleol (PCSO) Rhys Evans: "Yn anghredadwy mae rhywun wedi dringo i ben y castell 'efo morthwyl ac wedi malu rhan o'r tŵr crwn.

"Mae'r heneb hardd yma sy'n dyddio'n ôl i'r 12fed neu ddechrau'r 13eg ganrif yn rhan o'n treftadaeth ac mi ddylai gael ei barchu.

"Mae'r digwyddiad wedi cael ei recordio, ac mae'r lluniau fideo hynny'n cael eu harchwilio ar hyn o bryd.

"Gofynnaf i unrhyw un fu'n ymweld â'r safle yn ystod Gorffennaf ac a allai fod wedi gweld rhywbeth amheus, neu unrhyw un efo gwybodaeth, i gysylltu â ni ar 101 neu'r wefan."

Pynciau cysylltiedig