Heddwas yn wynebu cyhuddiadau troseddau rhyw yn erbyn plentyn
- Cyhoeddwyd
Mae plismon gyda Heddlu Gwent wedi ymddangos o flaen llys ar gyhuddiadau o gyflawni troseddau rhyw yn erbyn merch ifanc.
Mae John Stringer, 41, sy'n dod o Gaerdydd, yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Mae'r cyhuddiadau'n cynnwys annog merch i ddynwared gweithgaredd mewn fideos pornograffig.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y troseddau honedig wedi digwydd rhwng Rhagfyr 2019 a Gorffennaf 2021, ond nid tra'r oedd yn cyflawni ei waith fel heddwas.
Roedd y ferch o dan 13 oed pan honnir iddo ymosod arni.
Mae'n wynebu dau achos o ymosod yn rhywiol trwy gyffwrdd, dau achos o achosi neu annog merch i ymgymryd â gweithgaredd rhyw, ac un cyhuddiad o achosi plentyn i wylio neu edrych ar ddelwedd o weithgaredd rhyw.
'Cwestiynau od'
Dywedodd y ferch wrth yr heddlu ei fod wedi ei chyffwrdd, ac wedi dangos fideo pornograffig iddi gan ei hannog i ddynwared yr hyn oedd yn mynd ymlaen ynddo.
Ychwanegodd nad oedd hi'n "teimlo fel gwneud e, ond wrth gwrs roedd e'n fy ngorfodi i i wneud".
Yn ôl yr erlyniad roedd Mr Stringer wedi ei rhybuddio i beidio dweud wrth neb, ac mai hi "fyddai ar fai" pe bai'r troseddau'n dod i'r amlwg.
Digwyddodd y troseddu honedig ar sawl achlysur, ond daeth i ben dros dro yn ystod cyfnod clo y pandemig.
Yn y diwedd dywedodd y ferch wrth aelod o staff yn ei hysgol, a chafodd Mr Stringer ei arestio.
Fe welodd y rheithgor fideo o'r plentyn yn rhoi datganiad i'r heddlu bedwar diwrnod wedi'r tro diwethaf iddi honni i Mr Stringer ymosod arni.
Dywedodd y ferch fod Mr Stringer hefyd wedi gofyn "cwestiynau od" wrthi am ei pherthnasau ac addysg rhyw yn yr ysgol.
Clywodd y llys hefyd fod Mr Stringer wedi gofyn iddi yn ystod un o'r cyfnodau clo Covid, pan nad oedden nhw wedi gweld ei gilydd am gyfnod, a oedd hi wedi copïo unrhyw beth yn y fideos yr oedd wedi dangos iddi.
Pan ddywedodd hi nad oedd hi, dywedodd ei fod wedi dweud wrthi am wneud a'i bod yn teimlo ei bod hi'n cael ei "gorfodi".
Cafodd y ferch hefyd ei chroesholi gan yr erlyniad a'r amddiffyniad mewn gwrandawiad ar wahân, oedd wedi ei recordio a'i chwarae i'r rheithgor.
Fe wnaeth yr amddiffyniad ddweud bod Mr Stringer yn gwadu ei stori hi, gan awgrymu yn hytrach bod y ferch wedi dysgu am ryw gan ferched hŷn - ond fe fynnodd hi ei bod hi'n dweud y gwir.
Mae Mr Stringer yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn, ac mae'r achos yn parhau.