Teulu'n honni i daid dderbyn gorddos gan gartref gofal

  • Cyhoeddwyd
John Collinson a'i deuluFfynhonnell y llun, Rhian Collinson
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu John Collinson (canol) yn honni iddo dderbyn gorddos gan gartref gofal

Mae teulu dyn oedd â dementia yn honni i'w gyflwr ddirywio ar ôl cael 10 gwaith y dos arferol o feddyginiaeth mewn cartref gofal, wythnosau cyn iddo farw.

Roedd John Collinson yn 88 oed ac yn byw yng nghartref gofal Kinmel Lodge yn Sir Conwy.

Mae ei berthnasau'n honni bod ei gyflwr wedi dirywio ar ôl iddo dderbyn 10 gwaith y dos arferol o'i feddyginiaeth ddwywaith y dydd am wythnos.

Bu farw yn yr ysbyty wythnosau'n ddiweddarach yn Awst 2022.

Dywedodd Kinmel Lodge na all wneud sylw cyn cwest y crwner.

Ond ychwanegodd: "Mae rheolwyr a staff Kinmel Lodge wedi eu tristau i glywed am farwolaeth Mr Collinson, a fu farw yn drist iawn oddeutu chwe wythnos ar ôl cael ei symud o Kinmel Lodge i fan gwahanol."

Dydy'r dyddiad ar gyfer y cwest heb ei bennu eto.

Ffynhonnell y llun, Rhian Collinson
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kevin Collinson fod cyflwr ei dad wedi dirywio'n sydyn

Roedd Mr Collinson yn daid i 10 o wyrion ac yn hen daid i 12 o or-wyrion.

Roedd ei fab, Kevin Collinson, yn arfer mynd â'i dad am dro ar hyd lan y môr, ond un diwrnod, sylwodd Kevin bod ei gyflwr wedi newid.

Mae ei deulu yn honni ei fod wedi dirywio'n sydyn fis Gorffennaf y llynedd nes ei fod yn gaeth i'r gwely, ar ôl derbyn dos o gyffuriau.

Dywedodd Kevin wrth staff ei fod yn credu mai'r cyffuriau oedd ar fai, ond dywedwyd wrtho dro ar ôl tro nad oedd hyn yn wir, meddai.

Ond wythnos yn ddiweddarach, meddai, fe dderbyniodd e-bost gan rywun yn y cartref gofal yn dweud eu bod wedi rhoi gorddos cyffur gwrth-seicotig iddo.

Ffynhonnell y llun, Kevin Collinson
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddatblygodd Mr Collinson ddolur gwely maint "wy wedi'i ferwi" yn ôl ei deulu

Dywedodd chwaer Kevin, Rhian Collinson: "Yn yr amser roedd dad wedi bod yn ei wely, roedd wedi datblygu'r dolur gwely mwyaf ofnadwy. Roedd sawdl dad yr un maint ag wy wedi'i ferwi.

"Yn dilyn hynny, y dolur gwely ddaeth a phethau i ben i fy nhad. Am yr wyth wythnos nesaf ni allai gerdded, roedd yn septig."

Dywedodd Kevin ei fod wedi bod yn "gefnogwr brwd o Kinmel Lodge, yn enwedig trwy'r cyfnod clo" ond "yna fe lithrodd safonau" ac fe ddechreuon nhw "golli llawer o staff".

Fe symudodd y teulu Mr Collinson i gartref Llys Elian ym Mae Colwyn a dywedodd Rhian eu bod yn "ddiolchgar" am eu cymorth.

Ond, fe ddirywiodd ei iechyd yn sydyn a bu'n rhaid ei symud i ysbyty ble bu farw.

Gwrthododd Cyngor Conwy, sy'n rhedeg Llys Elian, wneud sylw.

'Craciau yn y system'

Mae'r teulu wedi bod mewn cysylltiad ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), Cyngor Conwy, Heddlu Gogledd Cymru a Llys Crwner Sir Ddinbych.

"Yn sylfaenol, hyd yn hyn mae pob un o'r cyrff hynny wedi bod yn dipyn o jôc," meddai Kevin.

"Mae 'na gymaint o graciau yn y system yma. Y peth sy'n anodd yw'r ffaith nad oes neb i'w weld yn poeni am gysylltu'r cyrff perthnasol, a sicrhau nad yw'n digwydd eto."

Ffynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Mae cartref gofal Kinmel Lodge yn dweud na allan nhw wneud sylw pellach cyn cwest y crwner

Maen nhw'n honni hefyd na chafodd Cyngor Conwy wybod am y gorddos honedig am 11 diwrnod, er bod gofyn i wneud hynny o fewn 24 awr.

Mae'r teulu'n honni iddyn nhw gael eu heithrio o drafodaethau am yr achos gyda Chyngor Conwy am bron i saith mis wedi marwolaeth Mr Collinson.

Mewn galwad i'r teulu ar 24 Mawrth eleni, dywedodd cynrychiolydd ar ran y cyngor nad oedd yr un o'r pedwar person allweddol fu'n ymwneud â rheoli'r achos wedi gweld llun o ddolur gwely Mr Collinson.

Dywedon nhw fod y cyngor wedi cael gwybod am y gorddos am y tro cyntaf ar 18 Gorffennaf 2022.

"Mewn theori, o dan weithdrefnau diogelwch Cymru, mae ganddyn nhw [Kinmel Lodge] ddyletswydd gofal i adrodd ar unwaith felly fe ddylen ni fod wedi cael gwybod o fewn y 24 awr gyntaf iddyn nhw ddod i wybod," meddai'r cynrychiolydd mewn galwad ffôn.

Ond dywedodd Kevin fod hyn yn golygu y dylai'r cyngor fod wedi cael gwybod ar 7 Gorffennaf, gan mai dyna pryd y derbyniodd e-bost gan aelod o staff y cartref yn dweud bod "camgymeriad meddyginiaeth" wedi ei roi i'w dad.

'Ymrwymo i ddarparu'r gofal gorau'

Dywedodd Kinmel Lodge: "Gallai unrhyw sylw cyhoeddus neu ddyfalu gael ei ystyried yn niweidiol i'r achos hwn [y cwest] a byddai'n anghywir i ni, neu unrhyw un arall, ddyfalu ar hyn hyd nes y bydd y cwest wedi dod i ben.

"Rydym yn dal wedi ymrwymo i ddarparu'r gofal gorau oll i'n holl breswylwyr yn Kinmel Lodge a byddem yn hapus i siarad ag unrhyw breswylydd neu aelod o'r teulu sydd ag unrhyw bryderon am unrhyw sylwadau gan y cyhoedd."

Dywedodd AGIC fod Kinmel Lodge yn destun i'w "proses orfodi felly ni fyddai'n briodol i ni wneud sylw pellach ar hyn o bryd".

Ychwanegodd fod awdurdodau lleol yn "gyfrifol am ymchwiliadau diogelu lle gallai person fod wedi dioddef niwed" ond y byddent "bob amser yn cymryd camau pan fyddwn yn dod o hyd i dystiolaeth nad yw darparwr wedi cydymffurfio â'r rheoliadau ar gyfer darparu gwasanaeth cartref gofal".

Gwrthododd Llys y Crwner, Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Conwy wneud sylw.

Pynciau cysylltiedig