Canfod corff dyn ar draeth Rhoscolyn ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Traeth RhoscolynFfynhonnell y llun, Google

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau y cafodd corff dyn ei ganfod ar draeth Rhoscolyn ar Ynys Môn fore Mercher.

Cadarnhaodd llefarydd bod plismyn wedi'u galw i'r traeth am 09:45.

Dywedodd y llu fod ymholiadau yn parhau er mwyn ceisio adnabod y person a chanfod pa amgylchiadau oedd yn gysylltiedig â'r farwolaeth.

Ychwanegodd Heddlu'r Gogledd bod y crwner wedi'i hysbysu.

Pynciau cysylltiedig