Heddwas Gwent yn gwadu ymosod yn rhywiol ar ferch
- Cyhoeddwyd
Mae swyddog Heddlu Gwent sydd wedi'i gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar ferch dan 13 oed wedi gwadu'r cyhuddiadau yn yr achos lys yn ei erbyn.
Mae John Stringer, 41, yn gwadu pum cyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar ferch dan 13 oed, gan gynnwys annog plentyn dan 13 oed i ymwneud mewn gweithred rywiol ac achosi plentyn i wylio gweithred rywiol.
Yn nhrydydd diwrnod yr achos llys yn ei erbyn dywedodd ei fod wedi bod yn swyddog heddlu ers 14 mlynedd gan ychwanegu bod ganddo "hanes perffaith".
Clywodd y llys fod ffôn Mr Stringer wedi cael ei archwilio ar ôl iddo gael ei arestio.
Daeth arbenigwyr o hyd i 21,670 cofnod o'i hanes chwilio ar y rhyngrwyd, a oedd yn cynnwys tua 4,000 chwiliad am wefannau pornograffig - tua 18% o storfa'r peiriant chwilio.
Dywedodd yr erlynydd Ian Wright wrth y llys nad oedd unrhyw luniau anweddus o blant wedi cael eu canfod ar y ffôn.
'Dywedais bopeth wrthyn nhw'
Dywedodd Mr Stringer ei fod wedi prynu'r ffôn ail-law yn 2016, gan ychwanegu: "Mae'r ffôn dros saith mlwydd oed a dim ond 18% o'r storfa oedd hwnna."
Yn ôl yr erlyniad dim ond pum mlwydd oed oedd y ffôn.
Fe ofynnodd cyfreithiwr Mr Stringer, Ieuan Bennett, iddo a oedd gan yr achwynydd fynediad at ddeunydd i oedolion tra yn ei gartref.
"Na, dim o gwbl," atebodd Mr Stringer.
Gofynnodd yr erlynydd a oedd Mr Stringer wedi dweud y gwir wrth yr heddlu.
"Wrth gwrs, dywedais bopeth wrthyn nhw," atebodd.
Fe ofynnodd Mr Wright hefyd a oedd Mr Stringer erioed wedi dweud wrth y ferch ei fod yn teimlo'n unig a'i fod eisiau partner.
"Na," dywedodd Mr Stringer.
"Wyt ti'n gallu meddwl am unrhyw reswm fyddai hi'n gwneud hynny lan?" gofynnodd Mr Wright.
"Na," atebodd Mr Stringer.
Wastad eisiau bod yn heddwas
Roedd Mr Stringer, o Gaerdydd, yn arfer chwarae rygbi yn broffesiynol yng Nghymru a Seland Newydd.
"Roedden i hefyd yn chwarae i Gaerdydd a Chymru mewn gwahanol grwpiau oedran tra'n astudio gwyddor chwaraeon ar yr un pryd," dywedodd
"Roedd ymuno â'r heddlu o hyd yn rhywbeth roeddwn i eisiau ei wneud a ges mewn yn 2010," ychwanegodd.
Mae Mr Stringer yn gwadu pump o droseddau rhywiol yn erbyn plentyn dan 13 oed.
Mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2023