Rheithgor yn methu dod i benderfyniad yn achos heddwas

  • Cyhoeddwyd
John StringerFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae John Stringer wedi'i rhyddhau ar fechnïaeth tra bod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn penderfynu a dylid ymgeisio am ail achos

Mae rheithgor wedi methu dod i benderfyniad yn achos heddwas o Gaerdydd oedd wedi'i gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar ferch dan 13 oed.

Roedd John Stringer, 41, yn gwadu pum cyhuddiad - dau achos o ymosodiad rhyw, dau achos o annog plentyn dan 13 oed i gymryd rhan mewn gweithred rywiol ac un o achosi plentyn i wylio gweithred rywiol.

Wedi trafod am chwech awr a hanner, cafodd y rheithgor ei ryddhau ddydd Gwener.

Bu'r rheithgor yn trafod am dair awr a chwarter cyn i'r Barnwr Daniel Williams ddweud y byddai'n derbyn derbyn dyfarniad yr oedd 10 o'r 12 rheithiwr yn cytuno arno.

Wedi dwy awr a chwarter pellach, dywedwyd nad oedd unrhyw "obaith realistig" iddynt ddod i benderfyniad pe baent yn cael mwy o amser i drafod.

Mae gan Gwasanaeth Erlyn y Goron tan ddydd Gwener nesaf i benderfynu a fydd achos arall yn erbyn Mr Stringer.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth tan hynny.

Pynciau cysylltiedig