Cymru'n trechu Lloegr wrth baratoi at Gwpan Rygbi'r Byd
- Cyhoeddwyd
Roedd ceisiau gan Gareth Davies a George North a 10 pwynt o droed Leigh Halfpenny yn ddigon i selio buddugoliaeth yn erbyn yr hen elyn yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn.
Roedd Lloegr ar y blaen o 9-6 ar yr egwyl ond wedi'u hysbrydoli gan eu capten newydd, Jac Morgan, ddoth Cymru'n ôl i sicrhau'r fuddugoliaeth yn y gêm gyfeillgar hon fel rhan o'r paratoadau at Gwpan y Byd.
Marcus Smith oedd sgoriwr tair cic gosb Lloegr yn yr hanner cyntaf.
Ac er nad oedd Stadiwm y Principality yn hollol lawn, mi fydd y 65,802 oedd yno wedi mwynhau perfformiad tîm Warren Gatland, sydd eisoes wedi addo y byddai Cymru'n "synnu pobl" ac yn "gwneud rhywbeth arbennig" yn y gystadleuaeth.
Yn wir, roedd Cymru'n credu eu bod wedi sicrhau buddugoliaeth hyd yn oed fwy anrhydeddus na'r 20-9 terfynol, ond diddymwyd cais hwyr Louis Rees-Zammit gan ei fod wedi cyffwrdd â'r bêl ddwywaith cyn croesi'r llinell gais.
Wrth ddathlu ei ganfed cap roedd hi'n brynhawn arbennig i Leigh Halfpenny, ond roedd cydnabyddiaeth hefyd cyn y gêm o gyfraniadau Clive Rowlands, cyn-gapten a hyfforddwr Cymru a bu farw'n ddiweddar yn 85 oed.
Wrth i'r paratoadau at Gwpan y Byd barhau bydd Cymru'n wynebu Lloegr unwaith eto yn Twickenham brynhawn Sadwrn nesaf cyn croesawu De Affrica i Stadiwm y Principality ar 19 Awst.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd2 Awst 2023