Prosiect yng Nghastell-nedd yn helpu pobl i gael swydd
- Cyhoeddwyd
"Fi 'di dysgu siwd gymaint ar y prosiect yma. Mae wedi agor fy llygaid i gyfleoedd newydd a gobeithio gyrfa newydd."
Tan yn ddiweddar, nid oedd gan David Bowden, 37, o Gastell-nedd yr hyder i ddilyn gyrfa lawn amser ac mae wedi bod allan o waith am sawl mlynedd.
"Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth gwahanol a newydd," dywedodd. "Fe wnes i ychydig o gyrsiau gwahanol yn y coleg ond dim byd roeddwn i wir eisiau ei wneud.
"Fi byth di gwybod beth o'n i eisiau gwneud."
Mae David bellach yn rhan o brosiect sy'n cael ei redeg gan y Menter Effaith Gymunedol.
Mae'r sefydliad yn prynu hen dai sydd mewn cyflwr gwael ac yn rhoi cyfle i bobl sy'n rhan o'r prosiect eu trwsio er mwyn dysgu sgiliau newydd.
Y nod yw helpu pobl i ennill profiad a chymwysterau, a'u dysgu sut i sicrhau bod cartrefi yn arbed ynni ac arian ar filiau yn y pen draw.
Nawr gyda'i sgiliau newydd, mae gyrfa mewn adeiladu yn edrych yn debygol i David.
"Dwi 'di caru'r cwrs yma ers i mi ddechrau. Pan ddechreuais i yn gyntaf doeddwn i ddim yn gwybod llawer am adeiladu, ond rydw i wedi dysgu llawer," meddai.
"Clod i'r bobl sy'n ein dysgu, maen nhw wedi bod yn grêt.
"Nawr rydw i'n edrych am yrfa yn y diwydiant adeiladu. Mae wir wedi agor fy llygaid ac mae gen i obaith am y dyfodol am y tro cyntaf."
Fe wnaeth David gofrestru i fod yn rhan o'r prosiect trwy gynllun 'Ailddechrau' sy'n cael ei redeg gan Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU.
Mae'r cynllun yn rhoi cymorth i bobl sydd ar gredyd cynhwysol i ddod o hyd i swyddi yn eu hardal leol.
Ond gall pobl hefyd gyfeirio eu hunain at y prosiect, neu gael eu cyfeirio gan elusen.
Magu hyder a chwrdd â phobl newydd
Cafodd Kieran, 17, o Aberdulais, ei roi mewn cysylltiad â'r prosiect ar ôl iddo orfod gadael y coleg.
"Cefais fy nghicio allan o'r coleg ac felly cefais fy rhoi ar y cwrs yma," dywedodd.
"Ar hyn o bryd rydw i'n dysgu am lawer o grefftau ond dwi eisiau gwneud gwaith saer.
"Rydw i wir yn mwynhau yma."
Ychwanegodd: "Mae'n llawer gwell na bod yn y coleg. Rwy'n cael cyfarfod â phobl newydd ac mae'n well i mi nag aros mewn ystafell ddosbarth drwy'r amser.
"Heb y prosiect hwn sai'n siŵr beth bydden i'n gwneud."
Astudiodd Caitlin Struk, 21 oed o Sgiwen, waith saer yn y coleg, ond ar ôl cael ei hanafu ddwywaith, fe benderfynodd roi cynnig ar rywbeth newydd.
"Fe ddywedodd y ganolfan waith dylai gysylltu â'r prosiect," meddai.
"Rwy'n mwynhau bod yn rhan o'r prosiect yn fawr iawn.
"Ar y dechrau o'n i ofn gan fy mod wedi anafu fy hun ddwywaith yn gwneud gwaith saer yn y coleg.
"Ond yma 'dw i wedi dysgu llawer o grefftau gwahanol, a nawr rydw i eisiau mynd i weithio ar 'stafelloedd ymolchi a cheginau achos rydw i wir wedi mwynhau gwneud teils."
Ychwanegodd: "Roeddwn i'n eithaf swil a doedd gen i ddim llawer o hyder mewn gwirionedd, ond yma fi wedi magu hyder drwy gwrdd â phobl newydd."
Dod a phobl at ei gilydd
Unwaith y bydd y tai wedi'u cwblhau, bydd yr elusen yn eu rhoi ar y farchnad ac yn defnyddio'r arian i brynu tŷ gwag arall i'w adfer.
Mae aelodau'r prosiect ar hyn o bryd yn gweithio ar dŷ yng Nghastell-nedd sydd wedi bod yn wag ers 15 mlynedd.
Dywed Trystan Jones, Prif Weithredwr y fenter: "Rwy'n teimlo bod y gwaith rydym yn ei wneud yn hynod bwysig, yn enwedig ers y pandemig, gyda nifer o bobol yn cael trafferth yn ail-gysylltu â'u cymunedau neu gyflogaeth.
"Dydyn ni ddim dim ond eisie bobl i ddod yn grefftwyr, ond rydyn ni eisiau rhoi llwyfan iddynt i fynd ymlaen i wneud pethau gwahanol.
"Yn y 10 mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld llawer o ganolfannau cymunedol yn cau. Fel clybiau ieuenctid, tafarndai, clybiau pêl-droed ac ati. Yr holl fannau hyn lle mae pobl yn ymgynnull yn ein cymunedau.
"Felly mae'r prosiectau hyn yn cynnig lleoliad i bobl i ddod at ei gilydd i greu'r cysylltiadau cymdeithasol hynny eto, gyda phobl o wahanol oedrannau a chefndiroedd."
Wrth i'r argyfwng costau byw barhau, mae'r elusen hefyd am ganolbwyntio ar ddysgu pobl am gynaliadwyedd a sut i leihau biliau'r cartref.
"Mae ganddon ni brosiect tair blynedd ar y gweill i helpu pobl i ddeall sut i leihau eu biliau ynni," meddai Mr Jones.
"Da ni ddim eisiau canolbwyntio ar y pethau sgleiniog yn unig fel cael boeler newydd, ond hefyd y camau bach o ddydd i ddydd sy'n effeithio ar faint o ynni rydyn ni'n ei ddefnyddio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2023
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2023