Annog treialu wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae pwyllgor y Senedd wedi annog gweinidogion i dreialu wythnos waith pedwar diwrnod yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, heb ostyngiad mewn tâl.
Mae'r Pwyllgor Deisebau yn dadlau y gallai cynllun peilot weithio ar y cyd â threialon sydd eisoes wedi'u cynnal yn y sector preifat.
Mae'r pwyllgor yn dweud fod tystiolaeth y gallai wythnos waith fyrrach hybu cynhyrchiant a llesiant gweithwyr, a'r economi.
Ond mae'r adroddiad hefyd yn rhybuddio y gallai rhai sectorau, fel addysg, iechyd a lletygarwch, ei chael hi'n anodd ymdopi.
"Mae rhai gweithwyr eisoes yn cael eu gorweithio, a byddai symud i wythnos waith pedwar diwrnod yn gwaethygu'r heriau sy'n gysylltiedig â'r straen y maent yn ei wynebu," meddai.
Mae'r pwyllgor hefyd yn pwysleisio pryderon y gallai wythnos waith pedwar diwrnod fod yn "ddull rhy anhyblyg pan fo angen mwy o hyblygrwydd yn y gweithle" a bod rhai sefydliadau yn awgrymu y byddai'n "creu heriau sefydliadol, a gall fod yn rhy gymhleth i'w weithredu".
Beth yw'r dadleuon o blaid?
Yn amlinellu'r achos o blaid torri diwrnod oddi ar yr wythnos waith, mae'r adroddiad yn dweud y gallai:
Roi gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gan wella iechyd meddwl a chorfforol a boddhad pobl yn eu swyddi;
Hybu cynhyrchiant;
Lleihau llygredd aer ac allyriadau oherwydd llai o gymudo a newid ymddygiad;
Cyfrannu at fwy o gydraddoldeb rhwng rhywiau, gyda dynion "yn ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb dros ofal di-dâl a gwaith tŷ".
Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, yr AS Llafur Jack Sargeant, ei fod yn cytuno y byddai treialu'r syniad yn "gynnig beiddgar, ond nid yn fwy beiddgar na nod yr ymgyrchwyr hynny a frwydrodd dros weithio pum niwrnod yr wythnos, a thros wyliau â thâl a thâl salwch, ac eto rydym bellach yn eu cymryd yn ganiataol".
"Mae pobl Cymru ymhlith y bobl sy'n gweithio'r oriau hwyaf yn Ewrop," meddai.
"Er gwaethaf yr oriau hir, mae cynhyrchiant yn isel yn y DU, ac wrth fanylu ar y cysylltiad rhwng yr oriau gwaith a chynhyrchiant cyfatebol gallwn ddechrau ystyried yr wythnos waith pedwar diwrnod yn wahanol."
Gwell 'cynnal ein harbrofion ein hunain'
Dywed yr adroddiad, wedi "treialon llwyddiannus" o wythnos waith fyrrach yng Ngwlad yr Iâ, fod "llywodraethau yn Yr Alban, Iwerddon a Sbaen i gyd yn datblygu eu cynlluniau peilot eu hunain ar gyfer wythnos waith pedwar diwrnod, a fydd yn dechrau'r flwyddyn nesaf".
"Mae gwaith o ddifrif yn cael ei wneud i symud tuag at wythnos waith pedwar diwrnod yng Ngwlad Belg, Seland Newydd, Yr Almaen a Japan hefyd," meddai.
Dywedodd Mr Sargeant: "Mae arbrofion yn cael eu cynnal ar draws y byd, ond bydd gennym wybodaeth lawer cryfach o sut maen nhw'n cyd-fynd â'n hamgylchiadau yma yng Nghymru wrth gynnal ein harbrofion ein hunain.
"Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ein galwad am arbrawf cymedrol yn ein sector cyhoeddus, fel y bydd dadleuon yn y dyfodol ar y pwnc hwn yn cael eu llywio'n llawnach gan dystiolaeth gan Gymry ar effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol wythnos waith pedwar diwrnod."
Daw'r adroddiad yn sgil deiseb i'r Senedd gan Mark Hooper o'r Barri, a gyflwynodd wythnos waith pedwar diwrnod yng nghwmni cydweithredol IndyCube, sy'n darparu rhwydwaith o fannau i weithio ar y cyd.
Dywedodd fod yr adroddiad yn "gam mawr ymlaen tuag at fyd lle mae gennym well perthynas gyda gwaith".
"Heddiw, mae sut rydym yn ennill ein bywoliaeth yn flaenllaw yn ein bywydau yn rhy aml, ac mae hynny'n ein gwneud ni'n fwy sâl, yn fwy trist ac yn y pen draw yn llai cynhyrchiol," meddai.
Pryder am 'raniadau ac anghyfiawnder'
Er hynny, mae un o aelodau'r pwyllgor yn gwrthwynebu argymhellion yr adroddiad - yr AS Ceidwadol Joel James.
Dywedodd nad yw'r dystiolaeth sy'n cael ei hystyried yn "rhoi cyfiawnhad digonol dros wario cyllideb Llywodraeth Cymru, sydd wedi'i fwriadu ar gyfer pobl Cymru, ar gynllun nad oes gan Lywodraeth Cymru'r cymhwysedd deddfwriaethol i weithredu'n gyffredinol".
"Nid yw'r dadleuon dros yr wythnos waith pedwar diwrnod wedi'u cefnogi gan ddigon o ddata ymchwil ar wella cynhyrchiant, ac y mae holl gynsail cyfiawnhau wythnos waith pedwar diwrnod yn seiliedig arno.
"Rwy'n gwrthwynebu'n sylfaenol wythnos waith pedwar diwrnod, fel y nodir yn y ddeiseb hon.
"Rwy'n credu nad yw'n rhywbeth y gellid ei gyflwyno ym mhob sector, a byddai'n arwain at raniadau ac anghyfiawnder mewn cymdeithas."
'Annog mwy o ddewis a hyblygrwydd'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "dilyn y cynlluniau peilot mewn gwledydd eraill gyda diddordeb".
"Mae wythnos waith fyrrach yn un esiampl yn unig o weithio hyblyg," meddai.
"Rydyn ni eisiau annog mwy o gyflogwyr i roi mwy o ddewis a hyblygrwydd i'w gweithwyr am ble a phryd maen nhw'n gweithio, ble bynnag fo hynny'n bosib."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2020