Fan Barclays yn gadael y Maes yn dilyn cwynion iaith
- Cyhoeddwyd
Mae uned Banc Barclays wedi gadael maes yr Eisteddfod ym Moduan yn dilyn cwynion mai arwyddion Saesneg yn unig oedd arni.
Roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud na ddylai fan Barclays, fod ar y maes.
Dywedodd Dafydd Williams, is-gadeirydd y gymdeithas, fod hynny'n mynd yn erbyn rheol iaith yr Eisteddfod.
Dywedodd llefarydd ar ran y banc mai eu penderfyniad nhw oedd gadael, a hynny'n dilyn "nosweithiau o gael sticeri wedi'u rhoi ar ein fan".
Ychwanegwyd y byddan nhw'n "adolygu'r potensial ar gyfer arwyddion dwyieithog mewn digwyddiadau yn y dyfodol".
Roedd Cymdeithas yr Iaith wedi dweud fod y diffyg arwyddion Cymraeg yn adlewyrchu problem fwy eang gydag agwedd banciau at yr iaith.
Yn ymateb i'r honiadau hynny dywedodd Barclays eu bod yn "darparu cyfres o wasanaethau dwyieithog i'r cwsmeriaid Cymraeg".