'Rwy'n cael cefnogaeth na ches i yn fy hen ysgol'

  • Cyhoeddwyd
Bryn-y-Deryn
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgyblion uned cyfeirio Bryn-y-Deryn ymhlith miloedd o ddisgyblion sy'n disgwyl canlyniadau

Ymhlith y miloedd o ddisgyblion sy'n disgwyl canlyniadau arholiadau dros y pythefnos nesaf mae dysgwyr uned Bryn-y-Deryn - uned i bobl ifanc sydd wedi wynebu heriau ymddygiad neu gor-bryder.

Yn yr Uned Cyfeirio Disgyblion yng Nghaerdydd y bwriad yw sicrhau bod dysgwyr sydd wedi cael trafferthion mewn ysgolion prif ffrwd yn gadael gyda chymwysterau.

Mae arholiadau'n cael eu cynnal mewn ffordd wahanol yma - mewn dosbarthiadau bach, nid mewn neuadd - oherwydd anghenion y disgyblion.

Fe fydd eu graddau TGAU ar gael ar 24 Awst, wythnos ar ôl cyhoeddi canlyniadau Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol.

'Gallu bod yn fi fy hun'

"Fe driais i fy nghorau - dyna'r cyfan allai wneud," meddai Mason, 15, pan wnaethon ni siarad gydag e ar ddiwrnod ei arholiad TGAU Mathemateg ym mis Mehefin.

Mae mwyafrif helaeth y dysgwyr sy'n 14-16 oed wedi gwneud arholiadau - nifer, fel Mason, ym Mlwyddyn 10 ac wedi sefyll papur am y tro cyntaf eleni er mwyn magu sgiliau arholiad cyn blwyddyn nesaf.

Mae Mason wedi bod ym Mryn-y-Deryn ers mis Ionawr ar ôl beth mae'n ei ddisgrifio fel "ymddygiad dwl drwy'r amser" yn ei ysgol flaenorol - ond mae pethau wedi gwella nawr.

Disgrifiad o’r llun,

"Dwi jyst eisiau bod yn hapus, aros yn yr ysgol a chario 'mlaen gyda beth dwi'n 'neud nawr," meddai Mason

"Dwi'n teimlo fy mod i'n gallu actio fel fi fy hun - fe allai ofyn am help pan dwi angen e ac os dwi'n stryglo neu angen rhywbeth, allai ofyn i'r athrawon ac maen nhw bob amser yna i helpu.

"Dwi isie cael fy ngraddau - dwi jyst eisiau bod yn hapus, aros yn yr ysgol a chario 'mlaen gyda beth dwi'n neud nawr," meddai Mason.

Canlyniadau'n gwella

Mae Uned Bryn-y-Deryn yn cefnogi dysgwyr sydd wedi gadael ysgolion prif ffrwd oherwydd eu bod wedi cael eu gwahardd, neu ar fin cael eu gwahardd achos ymddygiad.

Ond mae hanner arall y disgyblion yno wedi iddynt fethu mynd i'r ysgol oherwydd gor-bryder neu resymau emosiynol ac iechyd meddwl eraill.

Mae Megan, 16, wedi dod i ddiwedd ei chyfnod ym Mryn-y-Deryn. Dywed fod yr uned wedi ei helpu i ymdopi gydag addysg ac mae'n obeithiol am ei chanlyniadau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae canlyniadau disgwyliedig Megan wedi gwella ers iddi symud i Fryn-y-Deryn

"Yn fy hen ysgol, roedd disgwyl i fi gael Fs - nawr mae disgwyl i fi cael Cs a Bs."

Ar ôl cael ei graddau mae hi eisiau parhau i astudio cyn penderfynu beth hoffai ei wneud fel gyrfa.

'Nerfus ond yn gyffrous'

Mae angen cymorth ychwanegol ar y rhan fwyaf o ddysgwyr Bryn-y-Deryn wrth wneud arholiadau, felly mae trefnu'r amserlen yn heriol, yn enwedig ar ddiwrnod papur poblogaidd fel Mathemateg.

"Fe fydd pob ystafell yn yr ysgol yn cael eu defnyddio a phob oedolyn yn cymryd rhan yn y trefniadau mewn rhyw ffordd," meddai'r dirprwy bennaeth a chydlynydd arholiadau, Hannah Smith.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Hannah Smith yn gyfrifol am drefnu arholiadau yn yr ysgol

Mae angen cymorth ychwanegol i ddarllen y papurau neu fwy o amser i'w cwblhau ar nifer o'r bobl ifanc.

Mae pob aelod o'r staff dysgu wedi eu hyfforddi i oruchwylio arholiadau fel bod oedolion cyfarwydd yn cefnogi'r dysgwyr ar y diwrnod.

Weithiau, mae sicrhau bod person ifanc yn dod i'r ysgol o gwbl ar gyfer yr arholiad yn llwyddiant.

Mae staff wrth y gatiau yn y bore i groesawu'r dysgwyr - ac ambell waith i'w hannog i ddod i mewn.

Mae Lishamarie, 15, yn "nerfus ond yn gyffrous" am arholiad heddiw.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lishamarie ei bod llawer hapusach wedi iddi symud ysgol a'i bod yn derbyn mwy o gefnogaeth

"Rwy'n cael mwy o gefnogaeth yma na wnes i yn fy hen ysgol," meddai. "Dwi gymaint hapusach".

"Yn fy hen ysgol ro'n i'n cael pob dim yn anghywir - ond yma, dwi'n cael rhywfaint yn gywir a rhywfaint yn anghywir," meddai gyda gwên.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Fiona Simpson fod yr ysgol hefyd yn ceisio magu hyder disgyblion

Yn ôl y pennaeth Fiona Simpson, mae magu hyder a sgiliau cymdeithasol yn bwysig i ddysgwyr Bryn-y-Deryn yn ogystal â sicrhau eu bod yn gadael gyda chymwysterau.

Mae dysgwyr yn cael sawl cyfle i sefyll papurau meddai "achos dydy sefyll eich arholiadau pwysicaf ar yr un diwrnod, yn yr un wythnos, ar draws y wlad ddim yn mynd i weithio i bawb."

Pynciau cysylltiedig