Morgannwg yn colli i Swydd Warwick yn y Cwpan Undydd

  • Cyhoeddwyd
Rob YatesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Rob Yates 102 rhediad i Swydd Warwick

Roedd hi'n gêm agos rhwng Morgannwg a Swydd Warwick nos Iau gyda'r ymwelwyr yn ennill gan 24 rhediad yn unig.

Gwnaeth batio cryf gan Rob Yates (102) a Ed Barnard (79) rhoi dechreuad da i Swydd Warwick, a gosododd yr ymwelwyr targed o 322 i'r tîm o Gymru.

Roedd hi'n edrych yn obeithiol i Forgannwg gyda Sam Northeast, Kiran Carlson, Billy Root a Ben Kellaway yn sgorio dros 50 rhediad yr un.

Ond gwnaeth bowlio da gan Oliver Hannon-Dalby a Barnard ei wneud yn anodd i'r tîm o Gymru.

Y sgôr terfynol oedd Swydd Warwick 331-7, Morgannwg 307.

Mae'r canlyniad yn golygu bod gan Forgannwg tri phwynt wedi pedwar gêm.

Pynciau cysylltiedig