Y fforest law Geltaidd yn ehangu yn Eryri

  • Cyhoeddwyd
David SmithFfynhonnell y llun, Paul Harris Photography

Wrth i dymheredd y byd gyrraedd y cyfartaledd uchaf erioed ar gyfer y mis yn Gorffennaf eleni, mae'n hawdd i feddwl nad oes newyddion da am yr amgylchedd mewn un man.

Ond mae 'na gornel o Eryri lle mae ymdrech yn digwydd i ehangu'r fforestydd glaw Celtaidd yn y gobaith fydd hynny o fudd yn yr argyfwng hinsawdd.

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi bod yn datblygu meithrinfa goed newydd yno er mwyn ail-greu'r hen goedwigoedd law oedd yn bodoli yng Nghymru ganrifoedd yn ôl.

Roedd y fforestydd glaw Celtaidd yn ffynnu mewn ardaloedd gwlyb a llaith ac yn gorchuddio rhan helaeth o'r wlad ond erbyn hyn dim ond darnau bach sydd ar ôl ym Mhrydain, gan gynnwys mewn rhannau o Eryri a Sir Benfro, Cernyw a Gwlad yr Haf.

Ffynhonnell y llun, Paul Harris Photography

'Cyfle cyffrous'

Mae David Smith, sy'n Prif Geidwad i'r Ymddiriedolaeth yn Eryri ac sy'n gyfrifol am y project, yn ei ddisgrifio fel 'cyfle cyffrous i wneud gwahaniaeth': "Mae'r fforestydd glaw ond yn bodoli mewn darnau bach o orllewin Prydain ac maen nhw mor bwysig yn eu ffordd a choedwigoedd glaw trofannol.

"Mae'r coedwig law Geltaidd yn bwysig achos ei fod yn gynefin prin iawn sy'n gartref i gasgliad unigryw o cen a mwsogl sy' ddim i weld yn un lle arall.

"Dwi ddim yn gwybod faint yn union (o'r fforestydd glaw) sydd ar ôl, ond darnau bach ynysig ydy nhw, sydd fel rheol mewn cyflwr gwael achos gorborri a rhywogaethau ymledol fel rhododendron ponticum."

Bydd coed derw, coed bedw ac oestrwydd yn cael eu tyfu yn y feithrinfa, yn ogystal a'r Boplysen Ddu, y goeden bren sy' fwyaf dan fygythiad ym Mhrydain.

Bydd y coed ifanc yn cael eu tyfu mewn celloedd am bedair blynedd cyn cael eu plannu tu allan er mwyn sicrhau'r cychwyn gorau posib iddynt.

Yn y pen draw bydd y coed yn cael eu plannu mewn llefydd priodol ar dir yr Ymddiriedolaeth ac yn helpu gyda'r argyfwng hinsawdd drwy sugno carbon o'r awyr a'i storio. Y nod yw i dyfu 30,000 o goed bob blwyddyn.

Ffynhonnell y llun, Paul Harris Photography
Disgrifiad o’r llun,

Gwirfoddolwr yn plannu yn y feithrinfa

Mae rhai o'r coed o'r feithrinfa wedi eu plannu'n barod yn Hafod Garegog (ger Porthmadog) er mwyn ehangu darn bach o goedwig law yno.

Pam felly fod y goedwig law Geltaidd mor bwysig â choedwig law drofannol?

Meddai David: "Mae o'n gynefin wahanol ond mae o'n fwy prin mewn ffordd gan fod llai ohono fo ar ôl.

"Yn Ewrop yn enwedig 'da ni wedi cael gwared ar rhan fwyaf o'r coedlannau gwlyb yma.

"Ac maen nhw'n bwysig iawn - dyw nhw ddim mor gynhyrchiol a llefydd yn y tropics a does 'na ddim cymaint o bioamrywiaeth ond beth sy' 'na yw pethau fel y cen a'r mwsog sy' ond yn byw yn fan 'na. Os mae'r darnau bach o'r coed diwethaf 'ma yn mynd bydd rheina'n mynd hefyd. Maen nhw'n bwysig o ran eu hunain - fasa'r byd yn dlotach hebddynt."

Llwyddiant

Mae David yn ffyddiog fydd y project yn gwneud gwahaniaeth i'r amgylchedd: "Mae'n fenter newydd sy'n llwyddo yn barod. Mae 'na oddeutu 20,000 o goed cynhenid yn tyfu yno rŵan, heb y perygl o fewnforio afiechydon.

"Mae'r had yn cael ei hel yn lleol ac ei dyfu yn lleol i fod yn addas i blannu yn lleol.

"'Da ni'n gweld tirwedd Eryri yn newid yn araf bach. Mae 'na fwy o goed yn popio fyny ym mhob man.

"Dwi'n meddwl se'n gallu cael effaith mawr mewn lle fel Eryri - mi fuasai wedi bod yn lot mwy coediog yn y gorffennol a rŵan pan chi'n sbio dros Eryri mae'n hollol noeth, yn enwedig gogledd Eryri.

"'Da ni ddim yn trio troi o nôl i rhyw goedwig anferth a dim byd ond coed ond beth 'da ni eisiau yw'r amrywiaeth 'ma yn y tirwedd sy'n gallu bod yn dda i bob math o gynefinoedd.

"'Da ni ddim yn trio sbio i greu coedlannau mawr lle does 'na ddim pori. Pan mae'r coedlannau 'ma wedi sefydlu 'da ni eisiau pori nhw. Mae ffermio yn ran o'r rheolaeth y coed."

Ffynhonnell y llun, Paul Harris Photography
Disgrifiad o’r llun,

Un o weithwyr yr Ymddiriedolaeth Hattie Jones yn y feithrinfa

Heriau hinsawdd

Mae'r tîm sy'n gweithio ar y project, sy' hefyd yn cynnwys gwirfoddolwyr lleol sy'n helpu i blannu'r coed, wedi gorfod addasu i'r hinsawdd yng Nghymru, meddai David: "Mae'r coed 'ma 'di bod o gwmpas ers i'r rhew dynnu nôl yn Oes yr Iâ diwethaf felly 'da ni'n sôn am 10,000 o flynyddoedd.

"Yn yr amser yna mae'r hinsawdd wedi mynd yn gynhesach ac yn oerach ac mae'r coed wedi gallu addasu i hynna yn iawn. Beth sy' wedi neud iddi nhw ddiflannu cymaint yw beth ni wedi bod yn gwneud - torri nhw lawr am wahanol resymau a gorbori'r tir.

"'Da ni yn gorfod addasu sut 'da ni'n plannu'r coed. 'Da ni wedi sylwi yn y blynyddoedd diwethaf fod y gwanwyn yn ofnadwy o sych yma ac felly ni'n plannu'r coed yn y gaeaf. Maen nhw eisiau dechrau tyfu yn eu tymor cyntaf, 'sgynnon nhw ddim lot fawr o wreiddiau felly os ni'n cael cyfnod sych hir yn y gwanwyn mae hynna'n achosi problemau i ni."

Ysbrydoliaeth

Mae'r tîm yn y feithrinfa wedi croesawu nifer o bobl i weld sut mae'r meithrinfa yn gweithio, yn ôl David: "Dwi'n gobeithio fydd o'n rhywbeth fase pobl eraill yn gallu neud hefyd - creu esiampl i bobl eraill. 'Da ni'n cael dipyn o bobl oddi fewn yr Ymddiriedolaeth a thu allan yn dod i weld y feithrinfa achos maen nhw'n setio lan rhywbeth tebyg eu hunain, dros Brydain i gyd.

"Dwi'n meddwl bod yna dipyn o straeon newyddion da am yr amgylchedd ond projectau bach ydy'r rhan fwyaf ohonyn nhw. Mae'r stori fawr yn un drwg."

Pynciau cysylltiedig