Galw am gyflwyno profion hunan-samplu canser ceg y groth

  • Cyhoeddwyd
Jess Moultrie
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jess Moultrie yn dweud byddai'r gallu i brofi am y firws HPV adref yn cynyddu'r nifer o bobl sy'n cael eu sgrinio

Mae ymgyrchwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno profion hunan-samplu ar gyfer canser ceg y groth. 

Yn ôl ymgyrchwyr iechyd Love Your Period, mi fyddai'r cyfle i brofi am y firws papiloma dynol (HPV) adref, yn hytrach nag yn yr ysbyty, yn cynyddu nifer y bobl sy'n cael eu sgrinio.

Ar hyn o bryd yng Nghymru mae menywod rhwng 25 a 64 yn cael gwahoddiad i fynychu prawf sgrinio bob pum mlynedd.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod gwaith yn mynd yn ei flaen gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i weld sut y gellid cyflwyno profion hunan-samplu, pe bai'r cyngor arbenigol yn argymell y newid.

'Gallu bod yn brofiad poenus'

I Bethan Jenkins, sy'n 38 oed, fe fyddai gallu gwneud y prawf adre yn gymorth enfawr iddi wrth ddioddef gyda chyflwr endometriosis. 

"Fi wastad 'di teimlo bod e'n bwysig mynd i gael y prawf ond dyw e ddim wastad 'di bod yn brofiad pleserus," meddai.

Ffynhonnell y llun, Bethan Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Bethan Jenkins o Aberdâr bod yna "stigma" ynghylch y profion

"Fi'n casáu mynd achos mae hi'n brofiad sy'n gallu bod yn really boenus."

Yn ôl Bethan, mae "stigma dal yn bodoli" ynghylch y profion.

Mae hi'n teimlo y byddai profion adref yn cynnig "elfen o breifatrwydd" i nifer o bobl sydd yn penderfynu peidio mynychu'r apwyntiadau yn yr ysbyty.

'Gallai profion achub bywydau'

I Molly Fenton a Jess Moultrie o'r ymgyrch Love My Period, mae hi'n hollbwysig estyn at bobl a chymunedau sydd ddim yn cael y profion ar hyn o bryd.

"Gall profion HPV ei hun achub bywydau, gan godi canser ceg y groth," meddai Molly.

Ffynhonnell y llun, Molly Fenton
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Molly Fenton fod pobl o'r gymuned LHDT+, yn enwedig pobl gyda chroth sydd ddim yn ystyried ei hunain yn fenywod, yn adrodd bod mynd am brawf yn heriol

"Rydyn ni eisiau sicrhau bod hynny ar gael i fwy o bobl."

Yn ôl Molly, mae nifer o bobl wedi cysylltu ag ymgyrch Love Your Period o'r gymuned LHDT+, yn enwedig pobl gyda chroth sydd ddim yn ystyried ei hunain yn fenywod, yn adrodd bod mynd am brawf yn heriol yn sgil y stigma sy'n bodoli.

'Cam arall' yn y frwydr yn erbyn canser

Yn ôl data Iechyd Cyhoeddus Cymru, canser ceg y groth yw'r canser mwyaf cyffredin ymhlith menywod o dan 35 oed, gyda sgrinio rheolaidd yn helpu i leihau'r risg o gael canser ceg y groth 70%.

Mae Dr Olwen Williams, arbenigwr afiechydon rhywiol a HIV, o'r farn y byddai gwneud y profion adref yn "gyfle" i bobl sy'n profi rhwystrau.

"Fi'n meddwl sa' fe'n rhywbeth gwych," meddai, ond ychwanegodd fod angen rhaid sicrhau fod pobl yn cael dewis sut maen nhw eisiau cael eu profion.

Yn ôl Dr Williams, mi fyddai ffordd o brofi ychwanegol yn "gam arall" yn y frwydr yn erbyn canser. 

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Olwen Williams yn arbenigwraig mewn afiechydon rhywiol a HIV

Mae'r Athro Peter Sasieni yn rhan o dîm o wyddonwyr ac arbenigwyr yng Ngholeg y Brenin Llundain sy'n ymchwilio'r pwnc ar hyn o bryd. 

Dywedodd fod "rhai pobl sy'n pryderu" y bydd newid y ffordd ry'n ni'n sgrinio am ganser yn cael effaith niweidiol. 

Serch hynny, mae o'r farn ei fod bellach yn "debygol iawn" y bydd hunan-samplu yn opsiwn i bobl sydd ddim yn cael eu sgrinio yn aml. 

"Mae llawer o newidiadau'n digwydd ar yr un pryd ac mae'n gwestiwn o beth sy'n cael ei flaenoriaethu a pha mor ofalus y mae pobl eisiau bod, oherwydd y peth olaf rydych chi eisiau ei wneud yw gwneud i bethau fynd yn llai da."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn dilyn cyngor arbenigol gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y Deyrnas Unedig (UK NSC) sydd heb wneud argymhelliad eto ynglŷn â hunan-samplu ar gyfer sgrinio serfigol, ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystyried sut y gellid gweithredu hyn yng Nghymru. 

"Os caiff ei argymell gan UK NSC, y gobaith yw y byddai hunan-samplu yn galluogi'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd cael prawf sgrinio serfigol ar hyn o bryd i gymryd rhan yn y rhaglen sgrinio."

Pynciau cysylltiedig