Dau mewn cyflwr difrifol ar ôl gwrthdrawiad ar yr A5

  • Cyhoeddwyd
A5Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A5 yn ardal Glyndyfrdwy, rhwng Llangollen a Chorwen

Mae dau berson wedi dioddef anafiadau sy'n peryglu eu bywyd yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A5 yn Sir Ddinbych nos Sadwrn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad yn ardal Glyndyfrdwy, rhwng Llangollen a Chorwen, tua 20:45.

Un cerbyd oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad, sef Audi A8 du.

Cafodd dau berson eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau sy'n peryglu eu bywyd, a bu'n rhaid i un ohonynt gael eu torri o'r cerbyd gan y gwasanaeth tân ac achub.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn "ymchwilio i amgylchiadau" y gwrthdrawiad.

Maen nhw'n apelio ar unrhyw un a welodd y car yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad, neu sydd â fideo dash-cam, i gysylltu â nhw.

Bu'r ffordd ynghau tan tua 06:30 fore Sul.

Pynciau cysylltiedig