Morgannwg yn trechu Sussex yn y Cwpan Undydd
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Morgannwg i drechu Sussex oddi cartref yn Hove yn y Cwpan Undydd ddydd Sul.
Ar ôl penderfynu batio gyntaf, fe wnaeth Sussex gyrraedd cyfanswm o 276-9 yn eu 50 pelawd nhw.
Fynn Hudson-Prentice (66), James Coles (59) a Tom Haines (59) oedd y sêr gyda'r bat, tra bod Zain ul Hassan wedi cymryd pedair wiced i Forgannwg.
Ond llwyddodd Morgannwg i gyrraedd y targed gyda phedair wiced a dros dair pelawd yn weddill, gyda Colin Ingram (73) ac Eddie Byrom (69) yn brif sgorwyr.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Morgannwg wedi ennill dwy a cholli dwy yn y Cwpan Undydd hyd yma, gydag un gêm wedi'i chanslo oherwydd glaw.