Beti a'i Phobol: Y meddyg teulu aeth 'ati ar ei liwt ei hun' yn ystod Covid-19
- Cyhoeddwyd
"Dyna'r wers dwi wedi ei gael fan hyn: os ydych chi'n credu mewn rhywbeth yn ddigon cryf ewch amdani..."
Mae Dr Eilir Hughes, y meddyg teulu o Nefyn a ddaeth i amlygrwydd am gydlynu'r ymateb i Covid-19 yn ardal Dwyfor, wedi bod yn siarad am ei benderfyniad i herio'r drefn a gweithredu ar ei liwt ei hun yn ystod y pandemig ar raglen Beti a'i Phobol, Radio Cymru.
Pan welodd Dr Hughes y lluniau teledu o'r sefyllfa argyfyngus yn yr Eidal ar ddechrau'r pandemig fe wyddai mai mater o amser yn unig oedd hi nes y byddai'r haint wedi cyrraedd ei gleifion ar benrhyn Llŷn a bod yn rhaid iddo wneud rhywbeth.
"Roedd o'n anochel," meddai wrth Beti George. "Doedd 'na ddim polisïau cadarn yn dod i fewn yn ddigon cynnar i'w rwystro fo rhag dod aton ni.
"Felly roedd o jyst yn fater o amser ac felly [ddaru ni] roi ar waith be' bynnag oeddan ni'n medru ei wneud yn lleol i geisio cwtogi'r niwed oedd o'n mynd i achosi i ni fel poblogaeth.
"Mi ddaru ni fynd ati i wneud be' fedren ni ar ein liwt ein hunain, creu ryw fath o ysbyty maes - yn ffodus iawn na fu raid inni ei ddefnyddio - yn y ganolfan hamdden leol ym Mhwllheli.
"Doedd 'na ddim byd cadarn yn dod i'r golwg," meddai am arweiniad yr awdurdodau ar y pryd.
"Tase rhywun wedi deud wrthach chi bod 'na lwyr-gload yn dod fysa chi byth wedi dychmygu'r peth - felly roedd rhaid ceisio cynyddu'r capasiti mewn ryw ffordd.
"Sut fasen ni'n medru edrych ar ôl y cleifion hyn fysa'n siwr o fod yn wael?
Gwneud, wedyn gofyn am faddeuant
"Roedd o'n dipyn o her troi at wahanol bobl a gofyn am ffafr. Ond dwi'n credu'n gryf yn y syniad yma o 'gwneud a wedyn gofyn am faddeuant'.
"Os ydych chi'n credu'n gryf mewn rhywbeth yna bwrw mlaen a'i wneud o. Ac agwedd felly oedd ganddon ni ar y pryd."
A bwrw ymlaen wnaeth o, er nad oedd angen yr ysbyty maes yn y diwedd: cydlynu meddygfeydd Dwyfor a sefydlu uned asesu cleifion Covid yn yr ysbyty leol; gweithio gyda chwmni gwaredu asbestos lleol i ddod o hyd i fygydau a PPE o ansawdd i feddygfeydd, ysbytai a chartrefi gofal; lobïo i fedru brechu yn y feddygfa leol; ac arwain ymgyrch Awyr Iach Cymru i hyrwyddo pwysigrwydd awyru i leihau'r risg o ledaenu Covid-19.
Yn 2022 cafodd Dr Hughes ei enwebu am Wobr Dewi Sant, dolen allanol am yr holl waith yma yn ystod y pandemig.
Roedd yn "anrhydedd mawr" iddo ac yn "cyfiawnhau yr holl ymdrech."
Meddai: "Mi ddaru o gymryd lot o'n egni i, lot o'n sylw i wrth gwrs. Mewn ffordd roedd yn cydnabod y ffaith mod i ddim wedi jyst rhoi fy mhen i lawr a derbyn, mod i wedi cymryd camau, mod i wedi gwneud rhywbeth am y peth..."
Pryder am allu'r ardal i ymdopi
Daeth Dr Eilir Hughes i sylw nifer yn gyntaf cyn y cyfnod clo pan wnaeth fideo a rannwyd ar gyfryngau cymdeithasol yn gofyn i bobl gadw at argymhellion y llywodraeth i aros adre, a pheidio â theithio i ardaloedd fel Llŷn rhag lledu'r haint.
Roedd hefyd yn gofyn i berchnogion llety gwyliau gau eu llety a pheidio â derbyn mwy o ymwelwyr am y tro.
Roedd y fideo yn dod o bryder gwirioneddol yn lleol na fyddai'r ardal yn gallu ymdopi gyda thrin cleifion yn sgil twf mawr sydyn yn y boblogaeth.
"Roedd y llywodraeth wedi dweud wrth bobl, plîs peidiwch â gadael eich cartref...heb ei roi yn rheol gwlad. Ac ar y penwythnos honno, dyma docyn o bobl yn heidio lawr i benrhyn Llŷn gan feddwl bod o'n le fysa efo risg isel o Cofid," meddai ar y rhaglen radio.
"Ond wrth gwrs bosib oeddan nhw efo'r afiechyd ac yn mynd i ddod â fo i'n hardal ni. Ac yn wir, mi brofwyd yn ddiweddarach, yn anffodus, bod hynny wedi digwydd...
"Roedd pobl leol yn ofnadwy o flin ac yn ofnadwy o rwystredig bod hyn wedi digwydd ac yn cysylltu efo fi ac yn gofyn os fyswn i'n gallu gwneud rhywbeth am y peth."
Daeth y cyhoeddiad am y clo mawr rai dyddiau wedyn.
Dim digon o welyau
"Mae Cymru fel gwlad yn un o'r gwledydd efo'r niferoedd lleiaf o wlâu gofal dwys sydd ar gael gan y Gwasanaeth Iechyd, yn ôl maint poblogaeth," eglura.
"Mae hynny'n wir iawn yng ngogledd orllewin Cymru mewn ardal fwy gwledig. Wedyn oeddan ni'n ymwybodol bod y ddarpariaeth oedd ganddon ni yn annigonol bryd hynny p'run bynnag.
"Ond os oeddach chi'n mynd i gael llwyth o bobl wedyn yn dod i'w hail gartrefi yn meddwl y buasai fan'ma yn saffach na byw mewn dinas yna di'r ddarpariaeth ddim yna ar gyfer y chwyddiant yma sy'n digwydd yn ein poblogaeth pan mae pobl yn treulio amser yn eu hail gartefi, fel sy'n digwydd yn aml iawn dros wyliau'r ysgol.
"Fyddwn ni'n arfer dweud bod y boblogaeth yn treblu yn ystod yr haf ond yn ystod y pandemig ddaru Mr Drakeford ddweud bod o'n mynd chwech gwaith yn fwy."
Mae hyn meddai yn pwysleisio yr "her unigryw yma sydd ganddon ni mewn ardaloedd fel Llŷn i ddarparu gwasanaethau, her y pwysau cynyddol yn ystod yr haf. [Mae] pawb yn clywed am y pwysau gaeaf wel mae gynnon ni heriau haf hefyd."
Awyr iach
Fe lansiodd Dr Hughes ymgyrch Awyr Iach Cymru oherwydd "nad oedd y neges honno ddim yn dod o'r llywodraeth i'r boblogaeth; pawb yn gwybod am y cadw pellter, pawb yn gwybod am y mygydau a'r golchi dwylo ond dim sôn am awyru ac felly es i ati i wneud hynny ar fy liwt fy hun."
Daeth y gwaith o gael gafael ar eu PPE eu hunain a mygydau o ansawdd hefyd oherwydd galw "gan feddygon ar draws gwledydd Prydain" am fygydau gwell a gwarchodaeth i atal lledaeniad drwy'r aer.
"Criw bach ohonan ni, falle ryw elfen o us against the world ac yn penderfynu mynd ati i drio casglu PPE, hynny'n cael ei wneud o'r feddygfa yn Nefyn. Be' bynnag oeddan ni'n gallu cael ein dwylo arno oedd yn mynd i olygu bod y staff yn yr ysbyty lleol, yn Ysbyty Gwynedd, yn mynd i fod mewn gwell sefyllfa."
Ai'r wers ydy eich bod chi'n herio llywodraethau?
"Ie, mae eisiau. Dyna'r wers dwi wedi ei gael fan hyn: os ydych chi'n credu mewn rhywbeth yn ddigon cryf ewch amdani. A dangoswch, boed o'n rhywbeth bychan neu fawr, os ydych chi'n credu eich bod chi'n gallu ei wneud o, ewch amdani."
"Cyfnod arall o rwystredigaeth yn ystod y pandemig," eglurodd wrth Beti George "oedd y disgwyliad yma bod pobl o ben draw Llŷn, ardal wledig, yn medru teithio i rywle fel Llandudno i gael eu brechu, os nad ymhellach.
"Ac felly dyma ni'n lobïo a cheisio cael yr hawl i ddarparu'r brechu mewn rywle gwledig. Doedd o ddim yn bolisi gan Gymru i'w ddarparu mewn meddygfa. Ond yn ffodus iawn mi ddaru ni lwyddo i brofi bod ni'n medru ei wneud o a ddaru ni wneud o sawl tro - cael y penwythnosau yma o filoedd o bobl o ar draws gogledd Cymru yn dod draw i gael y frechiad."
Mi fydd pandemig arall meddai Dr Hughes a dyna pam fod yr ymchwiliad i Covid mor bwysig i ddysgu gwersi.
"Dwi'n ffeindio fo'n anodd iawn gwrando arno fo achos oni'n gwybod bod cam-benderfynu wedi digwydd... ond mae ei glywed o wedyn yn dod allan, yn amrwd iawn, ma'n brifo rywun... ond [dwi] hefyd yn falch iawn bod 'na broses yn digwydd."
"Roedd rhai miloedd o bobl Cymru wedi colli eu bywydau yn sgil hyn," meddai "a ddylsa ddim, yn fy marn i, y niferoedd yna fod wedi eu cyrraedd... ddylsa ni fod wedi osgoi y rhan fwyaf o'r marwolaethau hynny petai 'na benderfyniadau wedi eu gwneud yn gynharach ac yn fwy addas."
Gallwch glywed y sgwrs gyfan Dr Hughes ar Beti a'i Phobol, BBC Sounds
Hefyd o ddiddordeb: