Pryd newidiodd y defnydd o 'ap' mewn cyfenwau?

  • Cyhoeddwyd
ap
Disgrifiad o’r llun,

Ambell i 'ap' adnabyddus; Y Prifardd ac Archdderwydd sy'n rhoi'r gorau iddi eleni, Myrddin ap Dafydd, arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, llais Stadiwm y Principality Rhys ap William, a'r actores Llinor ap Gwynedd

Mae amryw o bobl sydd â chyfenw sy'n dechrau gyda 'ap', 'ab' neu 'ferch' yng Nghymru, gan ddilyn traddodiad sy'n mynd nôl dros 1,000 o flynyddoedd.

Ond y 10 cyfenw mwyaf poblogaidd yng Nghymru heddiw yn eu trefn yw Jones, Davies, Williams, Evans, Thomas, Roberts, Lewis, Hughes, Morgan a Griffiths.

Mae hanes penodol i'r cyfenwau Cymraeg sy'n dechrau efo 'P'. Mae'r cyfenw Puw/Pugh yn dod o 'ap Huw/Hugh', mae Powell yn dod o 'ap Hywel', Pryce/Price yn dod o 'ap Rhys', Parry/Parri'n dod o 'ap Harry/Harri', Prichard yn dod o 'ap Richard' ac Prydderch yn dod o 'ap Rhydderch'.

Mae'r un peth yn wir am gyfenwau Cymraeg sy'n dechrau efo 'B'; Bowen yn dod o 'ab Owen', Bevan yn dod o 'ab Evan' ac Beynon yn dod o 'ab Einion'.

Ond pam newidiodd yr enwau 'ma? Pam y trodd 'ap Huw' i fod yn Puw a Pugh, ac 'ab Owen' yn Bowen?

Mae Dr. Benjamin Guy yn arbenigwr ar iaith, llenyddiaeth a hanes Cymru ganoloesol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yma mae'n rhoi rhywfaint o eglurder ar y mater.

'Y werin a'r bonedd yn defnyddio ap'

Pryd ddechreuodd yr arferiad o ddefnyddio 'ap'?

"Mae tystiolaeth bod 'ap' yn cael ei ddefnyddio yn y 10fed ganrif yn sicr, a chyn hyn mae cofnodion yn Lladin o'r arferiad hefyd," meddai Dr. Guy.

"Yn yr oesoedd canol cynnar roedd pawb yng Nghymru'n defnyddio'r ffurf 'ap' - y werin, y bonedd a'r frenhiniaeth."

Ffynhonnell y llun, Benjamin Guy
Disgrifiad o’r llun,

Dr. Benjamin Guy o Brifysgol Caerdydd

Felly, pryd y dechreuodd bethau newid?

"Dechreuodd pethau newid yn y 16eg ganrif gyda'r bonedd, a oedd yn cymryd enwau fel Puw (o ap Huw) a Prys (o ap Rhys), a dechreuwyd hefyd rhoi cyfenwau ar ôl enwau llefydd fel Mostyn (teulu pwerus a chyfoethog o'r ardal yn y cyfnod)."

Roedd y bonedd yn cael gwared o'r 'ap' yn aml am eu bod yn masnachu neu'n gweithio yn Llundain, ac efallai'n symleiddio neu Seisnigeiddio eu henwau yn sgil hyn.

Does yna ddim traddodiad swyddogol wedi bod yng Nghymru o ddefnyddio cyfenwau yn sgil proffesiwn fel sydd wedi bod yn Lloegr - Butcher, Cooper, Baker, Fletcher neu Mason. Efallai bod enwau fel 'John Bwtchar' neu 'Wil Llaeth' yn gyffredin mewn pentrefi, ond enwau ffug ac answyddogol yw rhain ar y cyfan.

Ond fel dywed Dr. Guy mae 'na draddodiad yng Nghymru o roi cyfenwau ar ôl ardaloedd - Prysor, Mostyn, Gower a Pennant yn enghreifftiau o'r rhain.

"Hefyd yn y cyfnod yma (16eg-17eg ganrif) fe newidiodd lawer o enwau fel Fychan i Vaughan, a Llwyd i Lloyd," esboniai Dr. Guy. "Roedd enwau yn amrywio hyd yn oed o fewn yr un teuluoedd - rhai yn defnyddio ap Huw, ac eraill yn defnyddio Puw. Dros amser roedd un ffurf yn cael ei ddefnyddio gan un cainc o'r teulu."

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r enwau mwyaf yng Nghymru yn y canol oesoedd; Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr), Owain ap Gruffydd (Owain Glyndŵr), Dafydd ap Gwilym a Gwenllian ferch Gruffydd

Dywed Dr. Ben Guy mai newid dros amser oedd gollwng yr 'ap', a bod y bonedd wedi arwain, a'r werin yn dilyn.

"Rhywbeth dros amser oedd hyn," meddai. "Roedd rhai pobl yn teimlo bod angen iddyn nhw gael cyfenw, a chael gwared o'r hen system, ond roedd y werin yn dal i ddefnyddio'r hen drefn am gyfnod hirach achos doedden nhw ddim yn gweld y pwysigrwydd mewn cael cyfenwau.

"Digwyddodd y newid yma ymysg y werin rhwng y 16eg-18fed ganrif, a dros amser daeth mwy o bobl i ddefnyddio cyfenwau. Erbyn dechrau'r 19fed ganrif roedd y mwyafrif yn defnyddio cyfenwau fel da ni'n 'nabod heddiw."

Yn ôl cyfrifiad 2021 mae dros 170,000 o bobl â'r cyfenw Jones yng Nghymru, 112,000 ag Davies, 111,000 â Williams, dros 74,000 o'r enw Evans a dros 71,000 â'r enw Thomas.

Arferion gwledydd Celtaidd eraill

Mae gan Iwerddon ac Yr Alban eu 'O', 'Mc' a 'Mac' wrth gwrs, ond dywed Ben Guy efallai mai gyda gwlad Geltaidd arall y dylai arferiad 'ap' Cymru gael ei chymharu.

"Y gymhariaeth debycach i beth ddigwyddodd yng Nghymru yw Ynys Manaw, lle chi'n gallu gweld mae lot fawr o gyfenwau yn dechrau gyda 'C'- mae Cavendish yn enghraifft (Mae Mark Cavendish yn un o seiclwr ffordd enwoca'r byd).

"Mae'r cyfenwau Manaweg yn aml yn dechrau efo 'C' am yr un rheswm a mae enwau Cymraeg yn dechrau efo 'P' neu 'B'. Mae'n parhau diwedd y 'Mac', yr hen system o enwi yno."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Shane MacGowan a Mark Cavendish, sydd â chyfenwau Gwyddeleg a Manaweg sy'n deillio o wreiddiau tebyg i'r 'ap' Cymraeg

Wedi i'r rhan fwyaf o'r Cymry ddod i'r arfer â defnyddio cyfenwau yn rheolaidd erbyn dechrau'r 19eg ganrif fe esblygodd cyfenwau Cymraeg rhywfaint, fel esboniai Dr. Guy.

"Yng Nghymru roedd pobl yna'n defnyddio'r 's' o'r Saesneg ar ddiwedd enwau fel Williams, Evans a Jones, ble roedd rhai eraill yn defnyddio Gruffydd yn lle ap Gruffydd.

"Mae'r 's' ar ddiwedd enw Cymraeg yn dod o'r Saesneg. Felly mae fel dweud Williamson ond heb y 'on' ar y diwedd.

"Felly, bydda 'ap Gwilym' wedi mynd yn 'Williamson', ac yna i 'Williams'... ac 'ap Ifan' yn mynd i 'Evanson', ac yna i 'Evans'."

Dros y canrifoedd daeth Jones, Williams, Evans, Roberts, Hughes a'r enwau eraill i fod yn enwau Cymreig, ac fe allforiwyd yr enwau 'ma ledled y byd.

Heddiw, Williams yw'r trydydd cyfenw mwyaf poblogaidd yn yr UDA, ac mae Jones a Davis hefyd yn y 10 uchaf ar y rhestr cenedlaethol. A gyda chyfenwau fel Thomas, Lewis, Roberts a Floyd hefyd yn boblogaidd yng Ngogledd America mae'n bwysig nodi eu tarddiad, a'r gwreiddiau cynnar yng Nghymru.

Ond mae'n bwysig iawn nodi hefyd bod defnydd o'r 'ap' yn dal i barhau yn gryf yng Nghymru, a'i fod yn draddodiad sydd yn mynd nôl 1,000 o flynyddoedd a mwy.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig