Cyhuddo cynghorydd tref o geisio llofruddio
- Cyhoeddwyd

Mae cynghorydd tref Pen-y-bont ar Ogwr, Darren Brown, wedi ymddangos o flaen Llys y Goron Casnewydd ar gyhuddiadau o geisio llofruddio ac o glwyfo bwriadol
Mae cynghorydd tref wedi ymddangos o flaen llys ar gyhuddiad o geisio llofruddio ac o glwyfo'n fwriadol.
Ymddangosodd Darren Brown, 34, o Tairfelin, Melin Wyllt, Pen-y-bont ar Ogwr o flaen Llys y Goron Casnewydd trwy gyswllt fideo o garchar Caerdydd.
Cafodd dynes ei chludo i'r ysbyty mewn cyflwr sefydlog ar 10 Gorffennaf ar ôl i'r heddlu gael eu galw i ddelio ag ymosodiad difrifol mewn tŷ yn yr ardal.
Cafodd Mr Brown ei gadw yn y ddalfa ac mae wedi cael gorchymyn i ymddangos ger bron llys ar 21 Medi.
Mae'r achos llys, os bydd angen un, wedi ei glustnodi ar gyfer 2 Ionawr 2024, ac mae disgwyl iddo bara am bum diwrnod.