Difrod i faes pebyll wrth i Storm Betty daro'r gorllewin

  • Cyhoeddwyd
Maes gwersylla NiwgwlFfynhonnell y llun, Mike Harris
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd pebyll eu difrodi ym maes gwersylla Niwgwl, Sir Benfro dros nos

Fe gafodd maes pebyll yn Sir Benfro ei ddifrodi wrth i Storm Betty daro arfordir gorllewin Cymru nos Wener.

Fe gafodd rhannau eraill o'r arfordir eu heffeithio hefyd gyda rhybudd melyn mewn grym am wyntoedd cryfion tan brynhawn Sadwrn.

Fe syrthiodd coeden ar reilffordd yng Ngwynedd sy'n effeithio ar drenau Trafnidiaeth Cymru rhwng Pwllheli a Machynlleth.

Dywedodd Traffig Cymru fod cyfyngiadau mewn lle i feiciau, beiciau modur a charafanau ar yr A55 Pont Britannia rhwng Ynys Môn a'r tir mawr.

Dywedodd perchennog maes gwersylla Niwgwl fod 12 o bebyll wedi eu difrodi dros nos.

"Dyw fy staff na fy ngwesteion wedi cael rhyw lawer o gwsg," dywedodd Mike Harris wrth siarad ar Radio Wales fore Sadwrn.

Map swyddfa dywydd yn dangos rhybudd melyn yn rhannau o orllewin Cymru a dyn yn y gwyntFfynhonnell y llun, Swyddfa dywydd / getty images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn grym tan 12:00 brynhawn Sadwrn

"Fe wnaeth y cyfuniad o law a gwynt achosi traffreth mawr neithiwr.

"Fe gafodd tua 12 o bebyll eu dinistrio neu ddifrodi. Fe gafodd un sgrin car ei dorri gan falurion oedd yn hedfan.

"Yn y chwe blynedd ry'n ni wedi berchen ar y maes gwersylla dyma'r cyfuniad gwaethaf o dywydd ry'n ni wedi ei gael."

Mae'r rhybudd am wyntoedd cryfion mewn grym yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin, Conwy, Gwynedd, Ynys Môn a Sir Benfro.

Roedd disgwyl hyrddiadau o 45-55mya yn eang ar draws ardal y rhybudd, gyda siawns y gallai'r gwynt gyrraedd hyd at 70mya mewn rhai mannau.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r tywydd garw lorio coed, gan effeithio ar wasanaethau bws a thrên, a'r ffyrdd.

Pynciau cysylltiedig