Dyn 27 oed wedi marw yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Lôn ogleddol yr A449 ar gyrion RhaglanFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu eisiau clywed gan bobl oedd yn gyrru ar yr A449 rhwng 13:00 a 14:00 ddydd Sul 20 Awst

Mae dyn 27 oed wedi marw yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy dros y penwythnos.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i lôn ogleddol yr A449 yn ardal pentref Rhaglan tua 13:30 brynhawn Sul wedi adroddiad o wrthdrawiad a oedd yn cynnwys fan a cherbyd amaethyddol.

Cafodd gyrrwr y fan ei gludo i'r ysbyty ble y bu farw, medd Heddlu Gwent.

Mae swyddogion arbenigol yn rhoi cefnogaeth i'w deulu.

Mae'r llu'n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn teithio ar yr A449 rhwng 13:00 a 14:00 a welodd y gwrthdrawiad, neu sy'n gallu cynnig lluniau CCTV neu dash cam.

Roedd swyddogion y gwasanaeth ambiwlans ac ambiwlans awyr yn rhan o'r ymateb ac fe wnaeth Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru anfon criwiau o Ddyffryn, Brynbuga, Trefynwy a Malpas i'r safle.

Fe gafodd traffig ei ddargyfeirio o'r ffordd am rai oriau rhwng Brynbuga a chylchdro'r Coldra yng Nghasnewydd ond roedd y ffordd wedi ailagor i'r ddau gyfeiriad cyn 22:00 nos Sul.

Pynciau cysylltiedig