Morgannwg yn trechu Northants yn y Cwpan Undydd
- Cyhoeddwyd
![Sam Northeast](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/1D0D/production/_130873470_cdf_310722_cf_wales_v_glamorgan_003.jpg)
Sgoriodd Sam Northeast 100 o rediadau Morgannwg
Llwyddodd Morgannwg i drechu Sir Northants gyda phum wiced a thros dwy belawd yn weddill yn eu gêm Cwpan Undydd ddydd Mawrth yng Ngerddi Sophia.
Penderfynodd yr ymwelwyr i fatio gyntaf ar ôl galw'n gywir gan sgorio 340 o rediadau am bum wiced wedi 44.2 pelawd.
Daeth rhan helaeth o'r rhediadau diolch i ymdrechion Ricardo Vasconcelos (106), Rob Keogh (100) a Sam Whiteman (88).
341 oedd y nod felly i'r tîm cartref ac fe gyfrannodd y batiwr agoriadol Sam Northeast 100 o rediadau cyn cael ei fowlio allan.
Roedd yna gyfraniadau da hefyd gan Eddie Byrom (50), Colin Ingram (69), Billy Root (39) a'r wicedwr Alex Horton (44 heb fod allan) wrth i Forgannwg sgorio 343-5 wedi 47.4 pelawd.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Morgannwg wedi ennill pedair a cholli tair yn y Cwpan Undydd hyd yma, gydag un gêm wedi'i chanslo oherwydd y glaw.
Maen nhw'n parhau yn y pedwerydd safle.