Alarch yn oedi traffig am gyfnod ym Mhorthmadog

  • Cyhoeddwyd
alarchFfynhonnell y llun, Alison Statham

Roedd yna gryn oedi i yrwyr ym Mhorthmadog amser cinio ddydd Mawrth wrth i un alarch penderfynol gerdded yn araf i gwrdd â gweddill ei deulu.

Wrth i'r alarch ymlwybro ar hyd y Cob, y clawdd sy'n cario ffordd yr A497 ar hyd Afon Glaslyn, roedd yn rhaid i'r traffig ddod i stop i bob pwrpas.

Am ran o'r daith roedd bws yn ei ddilyn ac er gwaetha ymdrechion gyrwyr i'w yrru'n ôl tua'r morglawdd nid dyna oedd dymuniad yr alarch ond mae'n bosib nad oedd y muriau uchel bob ochr i'r tarmac fawr o help gan nad oedd yn bosib i'r alarch weld yn iawn.

Yn ôl Alison Statham, a dynnodd y llun: "Ry'n ni'n rhedeg lle gwely a brecwast yn Nhal-y-bont gerllaw ac yn dod i Borthmadog i siopa.

"Roedd y traffig fwy neu lai ar stop ac yna fe sylweddolon ni fod gyrwyr yn gorfod pasio'r alarch.

"Diolch byth bu pawb yn ofalus - ac ni chafodd yr alarch ei niweidio na'i gynhyrfu.

"Mae'n debyg ei fod wedi bod yn ymyl gwesty y Premier Inn yn harbwr Porthmadog a'i fod yn ceisio ymuno â gweddill y teulu ar gyrion Afon Glaslyn.

"Ond mi aeth yn sownd rhwng waliau'r cob.

"Fe adawodd nifer o yrwyr eu ceir i geisio ei gael yn ôl i lannau'r dŵr.

"Ro'dd rhaid i ni symud ymlaen rhag i'r traffig ddod i stop yn llwyr, ond fe glywson ni'n ddiweddarach fod o wedi llwyddo i gyrraedd ei deulu drwy dwll yn y wal heb gael ei frifo."

Pynciau cysylltiedig