Bachgen o Sir Gâr yn diolch i griw a achubodd ei fywyd

  • Cyhoeddwyd
Dexter a TheoFfynhonnell y llun, RNLI
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Dexter a Theo yn "ffrindiau am byth" ar ôl y profiad "brawychus"

Mae bachgen naw oed o Sir Gâr wedi diolch i dîm gwylwyr y glannau [RNLI] am ei achub ar ôl mynd i drafferthion yn y môr.

Fe aeth Dexter i drafferthion yn ardal yr hen harbwr ym Mhen-bre ar 9 Awst.

Fe wnaeth bachgen 12 oed - sef Theo - sylwi ar Dexter mewn trafferth. Gan fod aelod o'i deulu'n gwirfoddoli gyda'r RNLI fe ymatebodd yn sydyn.

Dywedodd Dexter: "Dw i eisiau diolch i Theo a chriw'r bad achub am achub fy mywyd."

Fe ddaw geiriau Dexter wrth i'r elusen ddweud ei bod am atgoffa pobl sy'n mynd i'r arfordir dros ŵyl y banc am y cyngor - sef i arnofio ar eich cefn os ydych chi mewn trafferth tan i'r bad achub gyrraedd.

Fe welodd Theo y bachgen naw oed mewn trafferth, gan gofio y dylai ddweud wrtho am arnofio tan i'r bad achub ddod ato.

Dywedodd Theo: "Gallaf yn sicr weld fy hun yn gwirfoddoli gyda'r bad achub pan dw i'n hŷn.

"Dw i mor hapus fod Dexter yn iawn. Dw i'n credu y byddwn ni'n ffrindiau am byth."

Ffynhonnell y llun, RNLI
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dexter (chwith) wedi diolch i Theo (dde) a chriw'r bad achub ddaeth i'w achub

Dywedodd aelod o'r criw, Lee Howells: "Er ein bod ni wedi gorfod ymdopi â llawer dros y blynyddoedd yn yr orsaf, mae cael bachgen naw oed oedd yn ymwybodol ac yna'n anymwybodol yn fy mreichiau yn frawychus.

Dywedodd ei gydweithiwr, Nathan Gower: "Pan wnaethon ni gyrraedd y traeth, fe gefais sioc o weld fod fy nghefnder Theo yno.

"Dw i'n anhygoel o falch o'i weithredoedd, roedd e mor ddewr."

Fe gafodd y ddau fachgen eu cludo i'r lan gan y bad achub ac yna i Ysbyty Glangwili. Fe wellodd y ddau yn fuan.

Dywedodd Chris Cousens, arweinydd diogelwch dŵr RNLI Cymru: "Heb wybodaeth Theo wnaeth helpu'r plentyn oedd mewn trafferth, fe allai canlyniad y digwyddiad wedi bod yn wahanol iawn.

"Ry'n ni'n bles iawn fod y negeseuon diogelwch ry'n ni'n rhannu â phobl ifanc mewn ysgolion ar hyd y wlad yn cael eu defnyddio a thrwy wneud hynny, yn achub bywydau."

Pynciau cysylltiedig