RNLI: Pryder am ddiogelwch dros yr 'haf prysuraf'
- Cyhoeddwyd

Mae arolwg gan yr RNLI yn awgrymu bod 30 miliwn o bobl yn bwriadu dod i arfordir y DU dros yr haf
Mae pryder am ddiogelwch ar draethau Cymru wrth i'r RNLI ragweld yr "haf prysuraf erioed" mewn ardaloedd arfordirol eleni.
Wrth i gyfyngiadau coronafeirws gael eu llacio mae disgwyl i fwy o bobl fynd ar eu gwyliau o fewn y DU.
Mae'r RNLI yng Nghymru wedi lansio ymgyrch ddiogelwch newydd wedi i arolwg ar draws y DU awgrymu bod 30 miliwn o bobl yn bwriadu mynd i'r arfordir dros yr haf.
Bydd yr ymgyrch - sy'n annog pobl i fynd ar draethau gydag achubwyr bywyd arnynt - yn cael ei lansio cyn penwythnos Gŵyl y Banc a gwyliau hanner tymor.
Mae'r elusen hefyd wedi ymuno ag arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor i gydweithio ac archwilio'r ffyrdd gorau o gadw pobl yn ddiogel.
75% o bobl i ymweld â'r arfordir
Yn yr arolwg a gomisiynwyd gan yr RNLI, mae 75% o'r 1,007 o bobl a gafodd eu holi yn gobeithio ymweld â thraeth yn y DU rhwng Ebrill a Medi - gyda thua hanner rheiny'n debygol o wneud hynny dair gwaith neu fwy.
Dywedodd dros draean (36%) hefyd eu bod yn bwriadu ymweld â'r arfordir yn fwy na'r arfer eleni o'i gymharu â 2020.

Dywedodd Chris Cousens, Arweinydd Diogelwch Dŵr yr RNLI yng Nghymru: "Rydym yn disgwyl i'r haf hwn fod y prysuraf erioed i'n hachubwyr bywyd a chriwiau bad achub gwirfoddol yng Nghymru ac mae ffigyrau'r arolwg yn ategu hynny.
"Gyda golygfeydd syfrdanol a thraethau ysblennydd, rydym yn sicr y bydd pobl yn heidio i arfordir Cymru ac rydym eisiau i bobl fwynhau.
"Fodd bynnag, rydym yn annog pawb i barchu'r dŵr, i feddwl am eu diogelwch eu hunain, ac i wybod beth i'w wneud mewn argyfwng."
Ychwanegodd: "Ein prif gyngor yw i bobl ymweld â thraeth achub bywyd ac i nofio rhwng y baneri coch a melyn."
Bydd achubwyr yr RNLI yn gwasanaethu ar oddeutu 245 o draethau yr haf hwn er mwyn cynnig cyngor ac i helpu unrhyw un sydd mewn trafferth.
'Lot mwy o bwysau'
Dywedodd Roger Bowen, Rheolwr Bad Achub Porth Tywyn yn Sir Gâr, y bydd "lot mwy o bwysau" ar ei griw eleni.
"Mae'r tywydd yn mynd i fod yn well na be' oedd o flwyddyn diwetha' a bydd lot mwy o bobl yn dod tuag at y môr," meddai.
"Bydd lot ddim yn gwybod be' yw'r pwyntiau o safbwynt diogelwch ynglŷn â'r môr a'r llanw sydd gyda ni yng Nghymru, yn enwedig gyda ni yma ym Mhorth Tywyn."

Mae criwiau achub yn derbyn mwy a mwy o alwadau, meddai Roger Bowen o griw Porth Tywyn
Dywedodd Mr Bowen bod Bad Achub Porth Tywyn wedi derbyn 75 o alwadau yn 2020 - y nifer uchaf ers 1973.
Hyd yn hyn y flwyddyn hon, mae'r orsaf wedi derbyn 22 o alwadau o'i gymharu â chwe galwad o fewn yr un cyfnod y flwyddyn ddiwethaf.
"Mae'r trend yn tueddu i fynd tuag at fwy a mwy o alwadau gyda phob gorsaf yng Nghymru ar y foment," meddai.
Wrth i bobl ddychwelyd i'r gweithle yn dilyn cyfnodau clo, dywedodd Mr Bowen bod hynny'n wir am ei griw hefyd, a bod llai o wirfoddolwyr ar gael yn ystod y dydd - yn enwedig rhwng 9:00 a 15:30.
"Y peth mwyaf pwysig yw i bobl fod yn ymwybodol o amseroedd y llanw ac os yw plant yn mynd i'r traeth, iddynt ddweud wrth eu rhieni ble maen nhw'n mynd, a'r amser y maent yn gobeithio dod adref.
"Ac i fod yn onest, peidiwch mynd ar ben eich hun."

'Arnofiwch i Fyw'
Os oedd rhywun mewn perygl mewn dŵr oer, mae'r RNLI yn argymell arnofio ar eu cefn i ddisgwyl i effaith sioc y dŵr oer basio, er mwyn medru rheoli eu hanadl unwaith eto.
Yna mae modd ceisio symud yn ddiogel.
Os ydy rhywun mewn trafferth, y cyngor ydy i ffonio 999 a gofyn am Wylwyr y Glannau, a byddan nhw'n anfon cymorth.
Ni ddylid cymryd risg i geisio achub rhywun, ond os oes achubwyr bywyd gerllaw, galwch arnynt.

Er y cynnydd mewn galwadau, nid yw pawb sy'n mynd i drafferth bob amser yn y dŵr yn barod.
Mae ystadegau'r RNLI yng Nghymru'n dangos bod cerddwyr sy'n mynd yn sownd oherwydd y llanw wedi achosi bron i 10% o holl lansiadau badau'r RNLI dros y degawd diwethaf - mwy na dwbl cyfartaledd y DU.
O'r herwydd mae'r RNLI wedi ymuno ag arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor i bobl gael gwell dealltwriaeth o'r llanw a'r risgiau cysylltiedig ar yr arfordir.
Fel rhan o brosiect hirdymor, bydd arolwg i gael gwell dealltwriaeth o wybodaeth pobl er mwyn gallu archwilio'r ymyriadau priodol yn effeithiol.
Dywedodd Martin Austin o Brifysgol Bangor mai'r gobaith ydy "gwella ein gallu i ragweld sut mae traethau yn newid, ac i adnabod y peryglon y maent yn medru eu cyflwyno i'r bobl sy'n eu defnyddio".
"Dysgu pobl am y peryglon yw'r ffordd orau i'w cadw yn ddiogel ar ein harfordir hardd," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2021
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2020