Treth ar dwristiaid: Sut mae'n gweithio dramor?

  • Cyhoeddwyd
Barcelona
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai yn teimlo bydd treth twristiaeth, fel yr un yn Barcelona, yn niweidio'r diwydiant yng Nghymru

Rhaid edrych yn fanylach ar esiampl gwledydd Ewropeaidd os am sicrhau y bydd treth twristiaeth yn cael effaith gadarnhaol yng Nghymru, medd un ymgyrchydd tai.

Bwriad Llywodraeth Cymru ydy rhoi pwerau i awdurdodau lleol allu godi treth ar dwristiaid erbyn diwedd tymor y Senedd.

Yn ôl Wallis George, sy'n gyn-bennaeth cymdeithas dai yn y gogledd ac yn ymgyrchydd gyda Chymdeithas yr Iaith, mae'n angenrheidiol edrych ar esiamplau tramor wrth fynd ati i gyflwyno'r pwerau newydd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae trethi o'r fath yn "gyffredin ar draws y byd, gyda'r cyllid yn cael ei ail-fuddsoddi mewn cymunedau lleol, busnesau a thwristiaid".

Cynllun dadleuol ar draws Ewrop

Mae'r cynllun i gyflwyno treth o'r fath wedi cythruddo rhai aelodau blaenllaw'r sector dwristiaeth ac aelodau'r Blaid Geidwadol sy'n dweud y byddai'r dreth yn niweidio'r sector.

Ond mynnu mae rhai sy'n cefnogi'r dreth y byddai'n gyfle i fuddsoddi a gwella isadeiledd ardaloedd poblogaidd Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw eisoes wedi cwrdd yn rhithiol gyda chynrychiolwyr o ardaloedd lle mae'r dreth eisoes ar waith, fel Catalwnia, Amsterdam a Seland Newydd.

Mewn rhai mannau yn Sbaen, fel Barcelona, mae treth o'r fath yn hen arferiad ond mae yna ddadlau mewn ardaloedd eraill y wlad am effaith cynllun tebyg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae trethi twristiaeth yn gyffredin mewn sawl man yn Ewrop gan gynnwys Sbaen

Yn debyg i Gymru, mae Valencia yn ne Sbaen wedi bod yn cyflwyno deddf i godi treth fechan ar dwristiaid.

Ond ers gwneud hynny, mae'r blaid sy'n gyfatebol i'r Blaid Lafur yno wedi colli yn yr etholiadau rhanbarthol gydag adroddiadau lleol yn awgrymu bod gwleidyddion ceidwadol yn bwriadu diddymu'r ddeddf.

Mae'n glir felly fod y syniad o dreth i dwristiaid yr un mor ddadleuol mewn mannau yn Ewrop ag yw hi yma yng Nghymru.

Ar un o lonydd cul crasboeth Valencia mae gan Vincenzo Constabule siop sy'n llogi beics a sgwteri trydan - ei brif ffynhonnell o incwm felly yw twristiaid.

Disgrifiad o’r llun,

Teimla Vincenzo Constabule mai dyma'r amser anghywir i gyflwyno'r dreth a bod angen hybu twristiaeth wedi'r pandemig

Mae'n dweud nad yw yn erbyn y syniad yn llwyr, ond fod yr amseru yn ei boeni.

"Ar hyn o bryd, dwi ddim am weld treth ar dwristiaid", meddai.

"Mi ydan ni newydd ddod allan o bandemig a barodd dwy, tair blynedd lle brofodd siopau, yn gyffredinol, ostyngiad mawr yn yr hyn oedden nhw'n ei werthu.

"Mae o wedi bod yn gyfnod eithriadol o anodd yn ein bywydau a dwi'n meddwl mai rŵan yw'r cyfnod i helpu rheiny sy'n gweithio mewn siopau fel un ni."

Dwy ochr i'r ddadl

Yng Nghymru mae'r galw am weithredu yn ardaloedd twristaidd Cymru yn glir, gydag ymgyrchwyr yn galw am y ddeddf er mwyn ceisio diogelu cyflenwad tai i bobl leol.

"Gan fod polisïau tai, cynllunio a materion eraill wedi eu datganoli i Senedd Cymru, dwi'n meddwl fod o'n anorfod y dylen ni edrych ar ranbarthau a gwledydd llai yn Ewrop", meddai Wallis George, sy'n ymgyrchydd tai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Wallis George ei fod yn hollbwysig ystyried dwy ochr y ddadl wrth ystyried y cynllun newydd

"Da ni angen datblygu system dai yn sicr sy'n seiliedig ar nodau cyhoeddus ac yn sicrhau bod y mwyafrif o'r stoc yn fforddiadwy i bobl leol, nid dim ond i bobl ar incwm isel ond hefyd ar incwm uchel."

Yn ôl Mr George, mae'n bwysig hefyd gwrando ar y dadleuon ar y ddwy ochr hyd yn oed os nad yw'n cydfynd â'r hyn mae o am weld.

Prinder tai i bobl leol

Tair awr tua'r gogledd o ardal Valencia mae dinas Barcelona wedi cyflwyno cyfres o fesurau dros y blynyddoedd diwethaf i fynd i'r afael â gor-dwristiaeth, ond mae prinder tai i bobl leol yn parhau i fod yn broblem enfawr.

Wrth gerdded drwy ardal La Rambla, yng nghanol Barcelona, mae Meic Alger yn cyfeirio at y fflatiau sy'n ymestyn i'r awyr gan ddweud bod y rhan helaeth bellach yn cael eu llogi drwy Airbnb.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Meic Alger yn pryderu nad oes modd i bobl ifanc brynu neu rentu tai yn Barcelona

"Mae'r fflatiau i gyd yn rhai i dwristiaid neu yn swyddfeydd", meddai.

Esboniodd ei fod yn un o nifer o bobl leol sy'n llwyddo i fyw yng nghanol y ddinas ar hen gytundebau sy'n sicrhau bod modd iddyn nhw aros yno.

Ond mae'r cyfleoedd i bobl ifanc yn brin.

"Bydd rhaid cael llawer o arian i rentu fflat yma nawr, ac mae'n amhosib i bobl ifanc", dywedodd.

"Fel arfer mae pobl yn byw gyda'u rhieni tan fod nhw'n 30-35 mlynedd, mae o just yn amhosib ffeindio fflat."

Bwriad Llywodraeth Cymru ydy cyflwyno deddf o'r fath erbyn diwedd tymor y Senedd.

Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig a rhai o aelodau blaenllaw'r sector dwristiaeth yn mynnu y byddai'r newidiadau'n niweidio'r sector.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Mi fyddai ein cynlluniau yn galluogi i awdurdodau lleol benderfynu os ydyn nhw am godi treth fechan ar dwristiaid wedi ei selio ar anghenion eu cymunedau.

"Ein bwriad ydy mabwysiadu ethos o rannu cyfrifoldebau rhwng trigolion ac ymwelwyr er mwyn gwarchod, buddsoddi ac annog twristiaeth gynaliadwy."

Pynciau cysylltiedig