Galw am oedi cyn cyflwyno treth ar dwristiaid
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw ar Lywodraeth Cymru i oedi cyn cyflwyno treth dwristiaeth ar ôl i ystadegau newydd ddangos fod llai o ymwelwyr o dramor yn dod i Gymru o gymharu â rhannau eraill o Brydain.
Yn ôl ffigyrau diweddara'r llywodraeth roedd yna 33% o ostyngiad yn yr ymweliadau â Chymru o'i gymharu â 2019.
7% oedd y gostyngiad yn yr Alban, a 26% yn Llundain.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud fod trethi o'r fath yn gyffredin ar draws y byd ac yn cynrychioli canran fach o wariant ymwelwyr.
"Maen nhw'n dal i ddod ond maen nhw'n chwilio am rywbeth am lai o arian," meddai Rowland Rees Evans, perchennog Parc Penrhos yn Llanrhystud.
Mae'n poeni fod hynny'n rhoi mwy o bwysau ar fusnesau sydd eisoes yn gorfod ymdopi gyda chostau cynyddol tanwydd a bwyd.
"Mae pawb yn pryderu am yr economi. Mae cyfraddau llog newydd godi eto chwarter un y cant, mae ynni wedi dod lawr ar hyn o bryd ond ydy e'n mynd i godi eto yn y gaeaf?
"Erbyn y gaeaf falle welwn ni fwy o bobl yn dod allan o'r diwydiant. Mae rhai wedi dod allan yn barod dim ond achos bod nhw methu fforddio rhedeg y busnes."
Mae bob ymwelydd yn cyfri', ond ychydig dros 2% o ymwelwyr sy'n cyrraedd Prydain o dramor, sy'n dod i Gymru.
"Dwi ddim yn gweld gymaint o dramor ag arfer," meddai Alun Davies, rheolwr Rheilffordd y Graig yn Aberystwyth.
Mae'n teimlo bod angen marchnata Cymru'n well.
"Dim ond llywodraeth all 'neud hynny dramor. Allwn ni ddim a neud hynny ein hunain," meddai.
Er hynny, mae'n dweud bod mis Gorffennaf eleni yn cymharu'n ffafriol â'r llynedd o ran niferoedd ymwelwyr.
Mae Lloyd Alban, perchennog Fferm Fantasy yn cytuno. Nid diffyg ymwelwyr yw'r broblem iddyn nhw 'chwaith.
"Dyw hi ddim wedi bod yn rhy ddrwg ond fy mhroblem i yw'r costau sy'n codi o hyd," meddai.
"Costau trydan yw'r peth gwaetha'. Mae costau bwyd hefyd wedi codi tamaid bach ond mae costau ynni yn wael."
'Angen cydweithio gwell'
Yn ôl Ffederasiwn y Busnesau Bach mae'r cynnydd yn eu costau a'r angen i fod yn gystadleuol yn gwasgu busnesau.
Maen nhw am i lywodraethau Cymru a San Steffan wneud mwy i helpu.
"Ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i ailfeddwl y treth twristiaeth," meddai Ben Francis o'r ffederasiwn.
"Dy'n ni ddim yn meddwl taw nawr yw'r amser i gyflwyno treth newydd pan mae nifer yr ymwelwyr yng Nghymru wedi lleihau llawer ers 2019.
Mae'r ffederasiwn hefyd yn dweud bod angen cydweithio gwell rhwng llywodraethau i ddatblygu a marchnata brand Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymwybodol bod heriau tymor byr a thymor hir i'r sector twristiaeth o hyd ac yn parhau i weithio'n agos gyda'r diwydiant.
"Rydym yn canolbwyntio ar ledaenu buddion twristiaeth ledled Cymru, gan annog mwy o wariant drwy'r flwyddyn."
Wrth ymateb i'r alwad i oedi cyflwyno treth dwristiaid, mae'r llywodraeth yn dweud eu bod yn gyffredin ar draws y byd ac yn cynrychioli canran fach o wariant ymwelwyr.
Os caiff y cynllun ei basio gan y Senedd yna awdurdodau lleol fydd yn penderfynu a ydyn nhw am gyflwyno'r doll yn seiliedig ar anghenion eu hardaloedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd17 Mai 2023