Menyw 83 oed wedi 'bygwth' pobl oedd methu ei had-dalu

  • Cyhoeddwyd
Tabitha RichardsonFfynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys fod Tabitha Richardson wedi "manteisio" ar bobl fregus a chodi llog o 40% ar fenthyciadau

Mae menyw 83 oed oedd yn "bygwth" pobl oedd yn methu ad-dalu benthyciadau anghyfreithlon wedi osgoi carchar.

Cafodd Tabitha Richardson, o Heol Nash yng Nghasnewydd, ddedfryd o ddwy flynedd o garchar, wedi'i gohirio am ddwy flynedd, yn bennaf oherwydd ei hoedran.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd iddi "fanteisio" ar bobl fregus a chodi llog o 40% ar fenthyciadau 28 wythnos o hyd.

Roedd hi wedi pledio'n euog mewn gwrandawiad cynharach i droseddau o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr, y Ddeddf Gwasanaethau Ariannol ac i drosedd arall o wyngalchu arian.

Clywodd y llys ei bod hi wedi copïo model benthyca ei chyflogwr blaenorol oedd yn cynnig benthyciadau cyfreithlon.

Daeth ei thrwydded rhoi benthyg arian i ben yn 2003, ond fe wnaeth hi barhau i roi benthyg arian yn anghyfreithlon gan ddweud wrth rai cwsmeriaid nad oedd hi "i fod i wneud".

'Dwi'n gallu dod o hyd i ti'

Pan fethodd rhai ad-dalu ar amser, roedd Richardson yn aml yn anfon negeseuon testun, gafodd eu disgrifio fel rhai "bygythiol".

Anfonodd neges destun at un cwsmer yn dweud: "Ffonia fi. Rwyt ti'n gwybod fy mod i yn gallu dod o hyd i ti", ac yna: "ffonia fi... cyn i mi ddod i chwilio amdanat ti".

Dywedodd wrth un arall: "Dydw i ddim eisiau dod i chwilio amdanat ti".

Roedd Tabitha Richardson wedi bod yn rhoi benthyg arian yn anghyfreithlon ers tua 20 mlynedd.

Dechreuodd Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru (WIMLU) ymchwiliad ym mis Awst 2022.

Fe ddaethon nhw o hyd i saith o bobl oedd wedi talu cyfanswm o £126,020 i Richardson.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Tabitha Richardson wedi dangos edifeirwch ac wedi ymddiheuro i'w dioddefwyr

Dywedodd y Barnwr Ben Blakemore wrthi fod y cyfraddau llog yr oedd hi'n eu codi yn "rhyfeddol" a'i bod wedi bod yn "ecsbloetio" pobl er mwyn gwneud "elw iddi hi ei hun".

Dywedodd y barnwr pe bai'r achos wedi mynd o flaen rheithgor a'u bod wedi ei chael yn euog, fe fyddai wedi ei charcharu am dair blynedd.

Gan ei bod wedi pledio'n euog a bod ganddi hawl i ostyngiad yn y ddedfryd o dair blynedd i ddwy, roedd yn gallu rhoi dedfryd ohiriedig.

Ychwanegodd hefyd ei bod wedi dangos edifeirwch ac wedi ymddiheuro i'w dioddefwyr.

'Benthyca mwy er mwyn talu'r llog'

Wrth iddi adael y llys gofynnwyd a oedd yn ddrwg ganddi am yr hyn a wnaeth i'w dioddefwyr.

"Wrth gwrs," meddai.

Yn dilyn yr achos, dywedodd un o'i dioddefwyr, nad oedd am roi ei enw i BBC Cymru, fod y benthyciadau wedi ei adael mewn cylch parhaol o ddyled.

"Roedden ni'n ad-dalu mwy nag oedden ni'n ei ennill," meddai, gan ychwanegu: "Yn y diwedd roedden ni'n benthyca ganddi hi, dim ond er mwyn ad-dalu'r llog iddi hi.

Disgrifiad o’r llun,

"Dydi'r ddelwedd o fenthycwyr arian didrwydded ddim yn bobl sy'n edrych fel Tabitha Richardson," meddai Sean Spiteri

Dywedodd Sean Spiteri, ymchwilydd gyda WIMLU, ei fod yn croesawu'r ddedfryd, gan ychwanegu bod yr achos yn anarferol.

"Dydi'r ddelwedd o fenthycwyr arian didrwydded - loansharks - ddim yn bobl sy'n edrych fel Tabitha Richardson," meddai.

"Ond er gwaethaf ei hoedran roedd hi'n bygwth y rheiny wnaeth hi gymryd mantais ohonyn nhw, yn aml gan wybod yn iawn nad oedden nhw'n methu fforddio ei had-dalu."

Mae cais wedi'i wneud o dan y Ddeddf Elw Troseddau i geisio adennill rhywfaint o'r elw a wnaed yn anghyfreithlon gan Tabitha Richardson.

Mae disgwyl i'r achos hwnnw ddigwydd yn y flwyddyn newydd.

Pynciau cysylltiedig