Y Bencampwriaeth: Preston 2-1 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Andrew HughesFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Andrew Hughes yn dathlu wedi i Preston ddod yn gyfartal

Roedd Abertawe yn chwarae yn bur hyderus yn Preston brynhawn Sadwrn ond colli fu eu hanes i dîm sy'n uwch na nhw yn y Bencampwriaeth.

Ar ôl hanner awr cafwyd chwarae da gan Josh Key a Charlie Patino i lawr yr asgell chwith cyn croesi at Harrison Ashby, y cefnwr - yntau yn taro foli hyfryd i'r rhwyd.

Roedd y llanc ifanc ar fenthyg o Arsenal, Charlie Patino, yn chwarae'n dda gan yrru'r Elyrch ymlaen o hyd ac Abertawe yn bodloni mwy ar eu cefnogwyr.

Yna wedi ambell gamgymeriad gan Abertawe cafodd Alan Browne le ar yr asgell a gwnaeth y Cymro, Andrew Hughes, rediad chwim i'r blwch gan benio'r bêl yn hyderus i gornel y rhwyd.

Roedd y sgôr yn gyfartal a'r dyrfa wedi deffro a'r eilyddio gan reolwr Preston yn talu ar ei ganfed.

Roedd y tîm cartref yn dal i fygwth ac ar ôl deg munud daeth ail gôl i Preston gydag ergyd troed dde gan Duane Holmes.

Dyma gadarnhau yr hen ystrydeb, roedd hon yn gêm o ddau hanner ac Abertawe wedi methu â manteisio ar eu chwarae cryf yn yr hanner cyntaf.

Er iddynt ymosod yn y munudau olaf nid oedd modd unioni'r sgôr.

Mae Michael Duff yn dal i ddisgwyl buddugoliaeth gyntaf ei dîm yn y Bencampwriaeth.