Sain Ffagan: Diddymu bws i atyniad poblogaidd yn 'broblem'
- Cyhoeddwyd
Mae diddymu gwasanaeth bws rhwng canol Caerdydd ac atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd y wlad yn ergyd arall i'r diwydiant, meddai'r Ceidwadwyr.
Yn rhan o newidiadau ehangach i fysiau'r brifddinas, fe fydd y gwasanaeth sy'n teithio i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan yn dod i ben.
Dywedodd Bws Caerdydd, sy'n rhedeg y gwasanaethau, nad oes ganddynt arian i barhau i weithredu pob siwrne, a bod yr adolygiad wedi ystyried defnydd o'r bysiau.
Ond yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig mae diddymu'r gwasanaeth yn lleihau'r cynnig i dwristiaid ar adeg pan fo cwymp mewn ymwelwyr i Gymru yn barod.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y diwydiant bysiau wedi derbyn cyllid i barhau drwy'r pandemig i sicrhau nad oedd "cwymp llwyr", a'i bod nawr yn edrych ar gyllid y flwyddyn nesaf.
Ar hyn o bryd mae gwasanaeth 32 yn rhedeg rhwng canol Caerdydd ac Amgueddfa Werin Sain Ffagan - un o wyth safle'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghymru.
Sain Ffagan yw "atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd y wlad", meddai Amgueddfa Cymru, gan "adrodd hanes Cymru trwy fywydau bob dydd ei thrigolion".
Ond fel rhan o'r newidiadau i wasanaethau bws, ni fydd teithiau i'r safle yn parhau.
'Cael pobl allan o'u ceir'
Un sy'n pryderu am effaith y penderfyniad ar ymwelwyr yw Andrew Green, awdur sydd hefyd yn blogio am dreftadaeth a hanes.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fe ddywedodd: "Mae'n amlwg am fod yn broblem os nad yw pobl Caerdydd a'r twristiaid sy'n cyrraedd Caerdydd yn gallu dod ar drafnidiaeth cyhoeddus i Sain Ffagan.
"Mae'n amlwg yn atyniad mawr ac yn derbyn dros 500,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, ac os nad yw pobl yn gallu cyrraedd mi fydd y nifer yma'n mynd i lawr fyswn i'n ei feddwl."
Ychwanegodd fod "cwestiwn ehangach hefyd" am doriadau yn y gwasanaeth bysiau dros Gymru.
"Dros Covid mi oedd Llywodraeth Cymru yn rhoi cefnogaeth ariannol i wasanaethau bysus, mae'r help yna'n dod i ben nawr ac mae gwasanaethau bysiau mewn trwbl.
"Yn yr argyfwng hinsawdd sydd ganddon ni rydyn reallyangen ehangu yn hytrach na lleihau er mwyn cael pobl allan o'u ceir ac ar y bysus."
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu'r penderfyniad.
Mewn datganiad dywedodd yr arweinydd, Andrew RT Davies AS, bod "cyngor Llafur Caerdydd yn diddymu gwasanaethau bws sy'n hanfodol i dwristiaeth".
"Beth sydd gyda ni i gynnig i dwristiaid? Yn ogystal â'r effaith ehangach ar y pentref a'r gymuned leol."
Ychwanegodd: "Rydyn ni angen gweithio ar draws pob lefel o lywodraeth i hyrwyddo'r opsiynau gwych sydd gyda ni i arddangos Cymru - ond mae Llafur yn rhy brysur gyda'i chynlluniau gwag."
'Gwneud teithio ar fws yn fwy deniadol'
Dywedodd Bws Caerdydd bod "nifer fechan o deithiau" ddim yn cael eu hariannu yn dilyn trafodaethau.
Ychwanegodd bod newidiadau wedi eu dylanwadu gan ddefnydd o'r gwasanaethau.
Yn ôl Cyngor Caerdydd, mae'n defnyddio ei "chyllid cyfyngedig" i gefnogi bysiau "mewn ardaloedd ble mae gwasanaethau'n cael eu tynnu'n ôl gan weithredwyr ac nad oes trafnidiaeth gyhoeddus arall ar gael".
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y diwydiant wedi derbyn cyllid i barhau drwy'r pandemig, ac mai'r flaenoriaeth hyd yma oedd "sicrhau bod gwasanaethau'n parhau a ddim yn cwympo'n llwyr".
Ychwanegodd llefarydd bod y llywodraeth yn "gweithio ar gyllid y flwyddyn nesaf" ac yn "cefnogi awdurdodau lleol" i "wneud teithio ar fws yn fwy deniadol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2023
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2018