'Chwarter teithiau bws Cymru i ddiflannu heb fwy o arian'
- Cyhoeddwyd
Mae yna rybudd y gallai hyd at 25% yn rhagor o wasanaethau bws yng Nghymru ddiflannu pe bai'r cwmnïau sy'n eu gweithredu'n methu â sicrhau mwy o arian tymor hir gan y llywodraeth.
Yn ôl amcangyfrifon, daeth bron i 10% o deithiau bws Cymru i ben yr haf yma nawr bod £150m mewn cyllid brys gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i'r pandemig wedi darfod.
Mae'r Cydffederasiwn Trafnidiaeth Teithwyr (CPT) nawr yn galw am gynllun tymor hir i ddilyn grant "dros dro" gan y llywodraeth o £46m.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried cyllido gwasanaethau bws o fis Ebrill ymlaen.
Mae teithiau yn nau o ddinasoedd mwyaf Cymru ymhlith y rhai sydd wedi'u torri'r haf yma, a hynny, meddai'r cwmnïau bws, oherwydd ffactorau fel toriadau cyllid, llai o deithwyr ar ôl y pandemig a'r terfyn cyflymder 20 milltir yr awr sydd ar fin dod i rym ar rai ffyrdd.
Dywed gweinidogion y gallai'r grant ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol yma achub "mwyafrif" y teithiau ond mae rhai wedi cael eu torri, gan gynnwys teithiau yng Nghaerdydd a Chasnewydd.
Mae'r CPT, sy'n cynrychioli'r cwmnïau, wedi dweud wrth y BBC y gallai mwy o doriadau yn y flwyddyn ariannol nesaf amharu eto ar deithwyr.
"Rydym wedi bod ar y dibyn sawl tro dros y tair blynedd ddiwethaf ac mae yna wir bryder yn y diwydiant ynghylch beth sy'n digwydd ar ôl mis Mawrth," meddai cyfarwyddwr CPT Cymru, Aaron Hill.
"Fe allwn ni fod wedi gweld toriadau i 20-25% o'r holl rwydwaith yng Nghymru oherwydd diwedd y cyllid diweddaraf. Dydyn ni ddim eisiau bod yn y sefyllfa yna ym Mawrth ac Ebrill.
"Rydym wedi gweld lefel enfawr o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn y tair blynedd ddiwethaf, ac mae'r diwydiant wedi ei werthfawrogi'n fawr.
"Mae cynllunio ar gyfer y dyfodol a cheisio penderfynu pa wasanaethau fydd yn bosib i'w rhedeg wedi mis Mawrth yn wirioneddol anodd. Dydyn ni ddim yn gwybod eto beth fydd y sefyllfa ariannol.
"Mae'r diwydiant eisiau gallu tyfu i redeg gwasanaethau newydd a chyrraedd llefydd newydd, ond dydy'r cyllid ddim yna.
"Rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru dan straen ariannol enfawr, felly mae angen gweithio gyda [nhw] i gael ateb wedi mis Ebrill."
Niferoedd teithio wedi haneru
Dywed CPT bod cwmnïau bws angen "buddsoddiad tymor hir" a help i gael pobl i deithio eto ar fysiau.
Mae teithiau TrawsCymru wedi cael eu hachub gan y grantiau mwyaf diweddar ond mae eraill wedi cael eu taro, gan gynnwys rhai Stagecoach yn y de ac Arriva yn y gogledd.
"Yn anffodus, mae cwmnïau bws yng Nghaerdydd, Casnewydd ac ardaloedd eraill yn torri ymhob man," dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies.
"Dydy grant y llywodraeth ddim yn ddigon i dalu costau gweithredu ond, yn bwysig, dyw'r llywodraeth yng Nghymru heb wneud digon i hybu pobl i ddychwelyd i'r bysiau a gwneud [gwasanaethau'n] ymarferol."
Mae niferoedd y teithiau bws wedi haneru bron ers Covid - o 101 miliwn yn 2018-19 i 52 miliwn yn 2021-22, yn ôl ystadegau'r Adran Drafnidiaeth.
Mae hynny'n 60% o ostyngiad o'r flwyddyn brysuraf, 2008-09, pan wnaed 130 miliwn o deithiau ar fysiau Cymru.
"Mae angen teithwyr i gynnal gwasanaeth ond mae angen gwasanaeth i ddenu teithwyr - mae'n gylch dieflig," dywedodd Mr Davies.
'Niweidio economïau lleol'
Mae Plaid Cymru hefyd yn galw ar weinidogion i gymryd camau "pendant a brys", a chyfarfod gyda'r cwmnïau bws.
"Bydd y toriadau yma'n cael eu teimlo mewn cymunedau ar draws ein gwlad gan bobl sy'n dibynnu ar y rhwydwaith fysiau i weithio, gweld ffrindiau a theulu neu gadw apwyntiadau ysbyty," meddai llefarydd trafnidiaeth y blaid, Delyth Jewell.
"Bydd yn niweidio economïau lleol ac yn gwaethygu anghydraddoldeb.
"Rhybuddiodd Plaid Cymru y llywodraeth Lafur os na fydden nhw'n ymroddi i gyllid tymor hir y byddai 'na doriadau enfawr i wasanaethau bws yng Nghymru. Dyna yn union sydd wedi digwydd."
Yn ogystal â thorri teithiau ar draws Cymru, mae rhai cwmnïau hefyd wedi newid teithiau i "adlewyrchu newidiadau patrymau teithio" wrth i fwy o bobl weithio o'u cartrefi.
Mae hynny'n gur pen i Chelsea Hamlyn, sy'n 29, yn fam i ddau o blant ac yn trin gwallt.
Mae hi angen teithio i'w gweithle yn Llanilltud Fawr, ym Mro Morgannwg o'i chartref yn Llangynwyd ger Maesteg, yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr.
"Ro'n i'n dibynnu ar y bws 07:30 o Langynwyd i Gwmfelin i fynd â fy merch i'r feithrinfa," meddai.
"Fedra i ddim dibynnu ar deulu neu ffrindiau am lifft a galla i ddim fforddio dysgu dreifio ar y foment. Rwy'n cael tacsi weithie ond gall rheiny fod yn ddrud.
"Mae gymaint o bobl yn dibynnu ar y bws i fynd i'r gwaith. Roedd staff ysbyty wastad ar y bws cynnar a nawr maen nhw hefyd yn gorfod dibynnu ar deulu neu ffrindiau neu ddal trenau cynnar iawn."
'Gwasanaeth cymdeithasol'
Llwyddodd un grŵp o drigolion yn Sir Fynwy i achub eu gwasanaeth bws lleol wedi bygythiad iddo bum mlynedd yn ôl wedi deiseb ag arni bron i 1,500 o enwau.
Ymgyrchodd trigolion y pentrefi rhwng Trefynwy a Brynbuga i gadw'r gwasanaeth rhif 65, gan ddweud eu bod yn dibynnu arno i siopa, mynd i'r feddygfa ac ymweld â ffrindiau.
Gyda chymorth Cyngor Sir Fynwy, fe sefydlodd y grŵp Friends of the 65 wefan a chyfrifon Twitter a Facebook er mwyn dod â sawl cymuned leol ynghyd.
"I'r rhai na allai yrru, dyma'r unig ffordd o fynd i'r gwaith neu siopa am bethau hanfodol," meddai un o'r aelodau, Jane Gilliard, darlithydd wedi ymddeol o bentref Pennarth, ger Trefynwy.
"Mae'r bws wedi dod yn gymuned ynddo'i hun gyda defnyddwyr a gyrwyr cyfeillgar, a chael pobl sy'n ei ddal o Drefynwy i Gas-gwent ac yn ôl er mwyn bod allan o'r tŷ a gweld pobl.
"Mae gyda ni lawer o deithwyr rheolaidd ac weithiau mae absenoldeb un yn cael ei nodi gan y gyrwyr sy'n rhoi gwybod i deithwyr eraill.
"Mewn un achos, aethon ni i dŷ un fenyw ac roedd hi wedi cael codwm felly wnaethon ni drefnu cefnogaeth a helpu gyda thasgau nes ei bod yn ddigon da i fynd yn ôl ar y bws a siopa eto - mae'n wasanaeth cymdeithasol yn ogystal â gwasanaeth bws."
'Sicrhau bod gwasanaethau'n parhau'
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn cefnogi awdurdodau lleol ar draws Cymru gyda mesurau blaenoriaethu bysiau i helpu pobl i deithio a gwneud teithio ar fws yn fwy apelgar.
"Ein blaenoriaeth hyd yma oedd sicrhau bod gwasanaethau'n parhau ac ein bod ddim yn wynebu cwymp llwyr yn y diwydiant," dywedodd llefarydd ar eu rhan.
"Rydym yn gweithio nawr ar y cynnig cyllido ar gyfer y flwyddyn nesaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai 2023
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2023