Dyn o Gaerfyrddin wedi'i gyhuddo o dreisio tair menyw

  • Cyhoeddwyd
Llys Ynadon LlanelliFfynhonnell y llun, Google

Mae dyn o Gaerfyrddin wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiadau o dreisio tair menyw.

Mae Daniel Gravell, 41, hefyd yn wynebu un cyhuddiad o 'bornograffi dial' - sef rhannu lluniau neu fideos preifat gyda'r bwriad o achosi loes.

Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud â phedair dynes wahanol yn ardaloedd Caerfyrddin a Chaerffili.

Fe ymddangosodd Mr Gravell yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Iau i gadarnhau ei enw ac i glywed y cyhuddiadau.

Mae'r tri chyhuddiad o dreisio yn ymwneud â digwyddiadau honedig yn ardal Caerfyrddin yn 2002, 2005 a 2022.

Mae'r cyhuddiad yn ymwneud â'r lluniau neu fideos yn cyfeirio at ddigwyddiad honedig yn 2021.

Cafodd yr achos ei gyfeirio i Lys y Goron Abertawe, ac fe gafodd Mr Gravell ei ryddhau ar fechnïaeth ddiamod.

Bydd y gwrandawiad nesaf ar 2 Hydref 2023, pan fydd disgwyl ple gan Mr Gravell.

Pynciau cysylltiedig